www.tancgc.gov.uk
Cymraeg | English
Cyrsiau BikeSafe
"Mae’n bwysig cofio bod beicio ar y ffordd fawr yn llawer mwy peryglus na’r hyn a wnaf i ennill bywoliaeth. Gwnewch amser i fod yn rhan o BikeSafe. Byddwch yn cwrdd â phobl debyg i chi, yn cael hwyl ac efallai byddwch yn derbyn cyngor a allai achub eich bywyd rhyw ddiwrnod!!”
John Reynolds (Cyn Pencampwr Superbike Prydain)

Bob blwyddyn mae beiciau modur yn mynd yn gyflymach, yn fwy pwerus ac yn fwy soffistigedig. Ar yr un pryd, mae’r ffyrdd yn mynd yn brysurach, sy’n golygu bod yn rhaid i feicwyr i fod yn llawer mwy gwybodus a chadw’u sgiliau beicio’n effro, er mwyn ymdopi â gofynion y ffordd fawr a beiciau heddiw.

Does dim gwahaniaeth faint o brofiad beicio sydd gennych. Efallai eich bod wedi bod yn beicio ers blynyddoedd neu’n dychwelyd wedi toriad. Nid yw’r beicwyr gorau byth yn stopio dysgu ac mae pawb yn medru elwa o hyfforddiant ychwanegol i gadw eu gwybodaeth o feicio’n ddiweddar, dysgu sgiliau newydd a deall galluoedd a chyfyngiadau eu beic. Pa fwyaf a ddysgwch y mwyaf y byddwch yn mwynhau beicio, a’r mwyaf diogel fyddwch chi pan fyddwch yn mynd allan ar eich beic.

Cynllun a redir gan luoedd yr Heddlu ledled y DU yw BikeSafe, ble’r ydych yn dysgu oddi wrth yr arbenigwyr sy’n treulio oriau ar eu beiciau pob dydd. Mae beicwyr modur profiadol yr Heddlu’n trosglwyddo eu sgiliau a’u gwybodaeth yn ystod gweithdai i’ch helpu i ddod yn feiciwr mwy diogel a chymwys, wrth gynyddu eich hyder ar yr un pryd.

Mae’r cyrsiau’n cydbwyso gwybodaeth sy’n seiliedig yn yr ystafell ddosbarth gyda theithiau ar y beiciau sy’n cael eu hasesu, sy’n cwmpasu cannoedd o filltiroedd ac yn rhoi’r theori ar waith. Hefyd, gallant eich cynghori ar gyrsiau hyfforddi ychwanegol os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau beicio ymhellach.

Yn ogystal, ystyriwch gymryd prawf beic modur uwch gyda’r RoSPA. Nid yn unig byddwch yn gwella eich dull o feicio a byddwch ymhlith beicwyr gorau’r wlad, ond gallwch ostwng eich premiymau yswiriant, y straen sydd arnoch chi a chael y fantais o lai o draul a gwisgo ar eich beic.

Mae nifer o sefydliadau beicwyr modur o gwmpas i’ch helpu i wella eich ffordd o feicio, megis y Sefydliad Modurwyr Uwch (IAM). Edrychwch yn yr Yellow Pages i gael mwy o fanylion am gyrsiau ac ysgolion beicio modur yn eich ardal chi.


© Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru | © Mid and West Wales Fire and Rescue Service