

Rhaglen ymddygiadol ddirnadol yw Rhaglen Ymyrraeth Cynnwyr Tanau Ifanc Firesafe. Mae’n cynnwys sesiwn o 1 i 1½ awr yr wythnos, dros gyfnod o 10 wythnos, a chaiff ei rhannu i 10 rhan neu sesiwn. Fe’i hanelir at blant a phobl ifanc rhwng 7 - 18 oed, sydd wedi cyfaddef neu gael eu dyfarnu’n euog o gynnau tanau neu losgi bwriadol. Caiff y rhaglen ei chydnabod yn genedlaethol fel model ardderchog i ymdrin ag ymddygiad o gynnau tanau ymhlith pobl ifanc. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Sefydliad y Ganolfan Ddirnadol, mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Derby. Mae nifer o Wasanaethau Tân ac Achub eraill ar draws y DU yn cynnal y rhaglen hon gyda chanlyniadau cadarnhaol iawn.
Ymholiadau am Atgyfeiriadau Gellir derbyn atgyfeiriadau oddi wrth amrywiol ffynonellau. Yn cynnwys:
|
||
Beth mae’n ei olygu?
Lluniwyd y rhaglen i roi cyfarwyddyd i rieni a gwarcheidwaid sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc sy’n chwarae â thân, trwy ddarparu rhaglen addysg strwythuredig i bobl ifanc a chyngor i rieni ar sut i atal chwarae â thân ac ymddygiad o gynnau tanau. Heb ymyrraeth rhaglen o’r fath gallai’r ymddygiad o gynnau tanau waethygu, gan arwain at ganlyniadau difrifol megis anafiadau personol, difrod i gartrefi, ysgolion ac eiddo. Bydd y gweithiwr achos yn ymweld â’r plentyn ar ôl trefnu amser a dyddiad cyfleus gyda’r rhiant neu’r gwarcheidwad. Bydd cymhorthion dysgu addas yn cael eu defnyddio i addysgu’r plentyn am ddiogelwch rhag tân. Bydd yn cael ei benderfynu’n unol â’r digwyddiad ac hefyd i ddiwallu steil y plentyn o ddysgu. Bydd y gweithiwr achos yn cysylltu eto mewn 2 – 3 wythnos wedi’r ymweliad cychwynnol. Os na chafwyd unrhyw ddigwyddiadau pellach bydd yr achos yn cael ei gau. Rydym yn defnyddio tîm o weithwyr achos addysg arbenigol, a hyfforddwyd i ymdrin â phlant a phobl ifanc sydd wedi dangos diddordeb mewn tân. Caiff pob un o’r gweithwyr achos yma eu cyflogi gan y Gwasanaeth Tân ac Achub ac maent yn cynnwys diffoddwyr tân a staff cefnogi. Dylai rhieni a gwarcheidwaid fod yn ymwybodol o arwyddion arferol cynnau tanau, er enghraifft;
Mae angen cydnabod ac ymdrin ag ymddygiad o chwarae â thân ymhlith plant a phobl ifanc, i sicrhau nad yw’n parhau pan fyddant yn oedolion. Cyngor cyffredinol hyd yn oed os nad yw plant bach yn dangos unrhyw ymddygiad o gynnau tanau, efallai bod ganddynt ddiddordeb mewn tân, chwythu canhwyllau allan ar gacen pen-blwydd neu gwylio oedolyn yn cynnau sigarét. Nid yw’n anghyffredin i blant mor ifanc a dwy flwydd oed i ddangos diddordeb mewn tân a / neu ddynwared gweithredoedd eu rhieni neu warcheidwaid. Gyda’r chwilfrydedd hwn daw angen i rieni a gwarcheidwaid i gymryd rhagofalon diogelwch tân, i wneud y cartref yn lle mwy diogel i blant. Buasai cyngor sylfaenol ar ddiogelwch rhag tân i rieni a gwarcheidwaid yn cynnwys;
Gellir derbyn ymholiadau Gellir derbyn ymholiadau am atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau oddi wrth amrywiol ffynonellau. Yn cynnwys:
|