Amdanom Ni

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.