Gorsafoedd Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru sy'n gweithredu system 2-2-4 yw:
- Castell-nedd
- Canol Abertawe
- Port Talbot
- Gorllewin Abertawe
- Treforys
- Llanelli
Mae diffoddwyr tân llawn amser yn darparu gwasanaeth ymateb brys 24 awr. Mae gweithio system 2 shifft diwrnod (0900-1800) a 2 shifft nos (1800-0900), sef pedair gwylfa (grwpiau o staff), yn sicrhau bod y gallu yno i ymateb ar unwaith bob awr o’r dydd a’r nos.
Mae gennym ymagwedd arloesol at y system genedlaethol hon sy’n rhoi hyblygrwydd a pherchnogaeth i staff, gan osod targedau ar gyfer lefelau criwio ac annog staff i ddefnyddio’r system i gwrdd â’u hanghenion nhw yn ogystal ag anghenion y sefydliad.
Gorsafoedd Tân Dydd Hyblyg â Chriw (FDC) (lwfans ychwanegol o 7.5%):
- Caerfyrddin
- Hwlffordd
- Rhydaman
- Aberdaugleddau
- Pontardawe
- Doc Penfro
- Aberystwyth
Mae’r FDC yn gweithredu ar yr egwyddor bod criw yn yr orsaf yn llawn amser yn ystod oriau’r dydd; mewn gorsafoedd nos ceir criw sy’n gyfuniad o bersonél y System Dyletswydd Llawn Amser (WTDS) a oedd yn gweithio yn ystod y dydd a phersonél Ar Alw sydd wedi ymroi’n llwyr i’r system ddyletswydd honno.
Mae’n ofynnol i bob gweithiwr a gyflogir o fewn y system FDC fod ar gael i weithio 191 x shifft 9.5 awr y flwyddyn. Gostyngir hyn i 159 pan ddidynnir hawliau gwyliau blynyddol. Mae hyn yn hafal i gyfartaledd o 42 awr llawn amser yr wythnos. O ran y 42 awr yr wythnos, ar gyfartaledd bydd saith awr yr wythnos wrth gefn gartref. Mae’n rhaid i Swyddogion Goruchwylio’r FDCS sicrhau bod gweithwyr yn gweithio eu horiau wrth gefn yn gyfartal trwy gydol y flwyddyn.
Mae shifftiau FDC yn gweithredu am gyfnod o 9.5 awr rhwng 0800 o’r gloch a 1800 o’r gloch gydag amseroedd cychwyn a gorffen yn amrywio yn dibynnu ar leoliad. Yna mae’n ofynnol i weithwyr ddarparu gwasanaeth ar alwad o 18.00 tan 08.00 y bore canlynol.
Tra bod staff yn darparu gwasanaeth ar alw byddant yn byw yn eu cyfeiriad cartref neu leoliad arall sydd wedi’i gymeradwyo gan y Gwasanaeth. Bydd gan staff ryddid i symud tra ‘ar alw’ gyda’r cafeat bod yn rhaid iddynt allu ymateb i’w gorsaf o fewn terfynau amser derbyniol.