Safonau’r Gymraeg

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio i Safonau’r Gymraeg a osodir gan Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.



O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yng Nghymru, mae gan y Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg ac ni ddylai gael ei thrin yn llai ffafriol. Er 30 Medi 2016, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i Safonau’r Gymraeg a osodir gan Gomisiynydd y Gymraeg.



Hysbysiad Cydymffurfio



Cynllun Gweithredu



Adroddiadau Blynyddol Safonau’r Gymraeg



Cwynion yn ymwneud â'r Gymraeg



Gallwch gyfeirio cwyn sy'n ymwneud â methiant yr Awdurdod i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg neu fel arall gallwch, yn y lle cyntaf, gysylltu â'r Awdurdod yn uniongyrchol.

Mwy o wybodaeth am ein gweithdrefn gwynion



Gallwch roi canmoliaeth, sylwad neu gyflwyno eich cwyn trwy llenwi'n ffurflen gyswllt ar-lein.

Neu trwy ysgrifennu at:

Tîm Cymorth Gweithredol
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Heol Llwyn Pisgwydd 
Caerfyrddin SA31 1SP

Neu drwy ffonio 
0370 6060 699

neu danfon ebost i ni