Mae rôl y Gwasanaeth Tân wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae rôl y Gweithredwr yr adran Rheoli Tân wedi addasu i adlewyrchu'r gofynion newydd sy’n wynebu’r Gwasanaeth Tân ac Achub heddiw.
Nid ateb galwadau brys a danfon peiriannau tân yn unig y mae staff Rheoli Tân. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod â digwyddiadau i gasgliadau llwyddiannus drwy ddefnyddio technegau trin galwadau arbenigol. Rhaid i staff yr Adran Rheoli Tân fod yn barod i roi cyngor a all achub bywyd i alwyr, cyfleu gwybodaeth a negeseuon hanfodol, ymateb i geisiadau gan y Swyddog yng Ngofal digwyddiad, cysylltu â gwasanaethau a sefydliadau brys eraill ac olrhain argaeledd adnoddau brys. Mae tasgau eraill yn cynnwys gwaith gweinyddol arferol.