Digwyddiadau

Yn amrywio o ddiwrnodau agored llawn gweithgareddau i olchi ceir a diwrnodau profiad, mae rhywbeth at ddant pawb



Mae yna groeso cynnes i bawb yn ein digwyddiadau cymunedol, gan gynnig cyfle gwych i chi gysylltu â’ch diffoddwyr tân lleol a chefnogi’r digwyddiadau a arweinir gan y gorsafoedd.

Nodwch y dyddiadau yn eich calendrau a chadwch olwg ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf a manylion am y digwyddiadau.

Peidiwch da chi â cholli allan ar y cyffro - dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a gwahoddwch eich ffrindiau a’ch teulu.



Digwyddiadau






Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru galendr prysur o ddigwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned drwy gydol y flwyddyn.



Addasu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Gyda'n Gilydd

Mae’n bleser gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) gyhoeddi lansiad cyfres o sesiynau galw heibio cymunedol gyda'r nod o gasglu mewnbwn gwerthfawr gan breswylwyr a rhanddeiliaid, er mwyn helpu i nodi unrhyw faterion neu heriau y gallai'r Gwasanaeth eu hwynebu wrth roi Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRMP) 2040 ar waith.

Bydd y sesiynau rhyngweithiol hyn yn llwyfan ar gyfer deialog agored, gan alluogi i aelodau'r gymuned rannu eu syniadau, eu pryderon a'u hawgrymiadau. Trwy weithio gyda'n gilydd, ein nod yw creu Gwasanaeth Tân ac Achub modern sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau ein cymunedau.

Ddod o hyd i'ch sesiwn galw heibio agosaf

Bore i'r teulu, ffrindiau yng Ngorsaf Dân Castell Newydd Emlyn.

Byddwn yn cynnal digwyddiad 'Cawl a Chlonc' yng Ngorsaf Dân Castell Newydd Emlyn ar ddydd Sadwrn 1af Mawrth rhwng 10yb a 12yp.

Gwybodaeth am Recriwtio.
Galwch heibio a dweud helô, byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi!

Paned gyda'r Criw Gorseinon

Byddwn yn cynnal digwyddiad “Paned gyda'r Criw” yng Ngorsaf Dân Gorseinon ar ddydd Sadwrn 22ain Mawrth rhwng 11yb a 2yp.
Bydd yr holl arian a godir yn cael ei roi i Elusen y Diffoddwyr Tân.
Bydd y criw yn cyflwyno hyfforddiant Cymorth Cyntaf sylfaenol, gan gynnwys defnyddio Diffibriliwr Cyhoeddus a Phecynnau Rheoli Gwaedu.
Gyda diddordeb? Dewch i gefnogi!


Golchfeydd Ceir







A oes angen golchi eich car? Rydyn ni yma i helpu! Dewch i un o’n digwyddiadau Golchi Ceir ac am gyfraniad i elusen, fe wnawn ni’n siŵr bod eich car yn disgleirio. Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at Elusen y Diffoddwyr Tân ac elusennau lleol eraill sy’n cael eu dewis gan yr Orsaf Dân dan sylw.




Dewch i gefnogi Golchfa Ceir Gorsaf Dân Pontarddulais ar ddydd Sadwrn, Mawrth 22ain!
Bydd y criw yn cynnal y Golchfa Ceir yng Ngorsaf Dân Pontarddulais rhwng 10yb-4yp, gyda’r holl arian a godir yn cael ei roi i Elusen y Diffoddwyr Tân a Cŵn Tywys Cymru.
Dewch i olchi eich car wrth gefnogi eich diffoddwyr tân lleol a dau chos teilwng iawn ar yr un pryd!