Bydd Hyfforddwyr Cadetiaid Tân Gwirfoddol yn darparu cefnogaeth a byddant yn ymgysylltu ac yn addysgu pobl ifanc yn weithredol. Bydd Hyfforddwyr Gwirfoddol yn gweithredu fel modelau rôl cadarnhaol a byddant yn helpu i gefnogi cyflwyno rhaglen o weithgareddau (ystafell ddosbarth, gweithgareddau'r iard ddrilio, adeiladu tîm, codi arian ac ati) ac yn mynychu digwyddiadau cyhoeddus sy'n cynrychioli'r Gwasanaeth.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddatblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy ac ennill profiad gwerthfawr. Mae Rhaglen y Cadetiaid Tân yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i bobl ifanc ac mae Hyfforddwyr Gwirfoddol yn helpu i wneud i hyn ddigwydd.
Mae'n ofynnol i Hyfforddwyr Gwirfoddol ymrwymo i fynychu nosweithiau rheolaidd yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau achlysurol yn ystod y tymor.
Pa sgiliau a phrofiad sydd eu hangen arnoch?
Nid oes angen i'n Gwirfoddolwyr Cadetiaid Tân fod â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc, dim ond angerdd am helpu i newid bywyd person ifanc er gwell. Mae rhai gofynion ymarferol y bydd angen i bob Hyfforddwr Gwirfoddoli eu bodloni:
- Bod yn 18 oed neu'n hŷn
- Bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar gyfer GDG Manwl gyda rhestrau Gwahardd Plant ar gyfer y rôl hon.
- Cyflwyniad i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Diogelu
- Cyflwyniad i weithio gyda Chadetiaid Tân a phobl ifanc
- Cwrs Hyfforddi Goruchwylio Ieuenctid ar Iard Ddrilio