Mae'r Osgordd Baneri’n cynnwys grŵp o bersonél presennol ac wedi ymddeol sy'n cynrychioli'r Gwasanaeth mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn galendr.
Fel y gwelir yn y llun uchod, mae'r Osgordd Baneri’n gwisgo gwisg seremonïol (tiwnigau, helmedau gwyn a bwyeill) ac yn cario baner y genedl a baner Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, felly gellir eu hadnabod ar unwaith fel rhan annatod o deulu'r gwasanaeth tân.
Ffurfiwyd Gosgordd Baneri Brigâd Dân Dyfed yn wreiddiol yn 1984 gan y Swyddog Rhanbarthol Cynorthwyol Rex Caunt.
Bryd hynny, roedd y grŵp yn cynnwys wyth unigolyn yn gwisgo eitemau amrywiol o git ac offer a gafwyd o wahanol leoliadau. Rhoddodd y cyn-Ddiffoddwr Tân Arweiniol Billy Lloyd ddwy fwyell cwympo coed o Ganada sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw. Darparodd y cyn-Ddirprwy Brif Swyddog Tân David Williams hefyd ddwy ffon swagar. Dros y blynyddoedd dilynol, mae'r Osgordd Baneri wedi cael eitemau newydd o git, gan gynnwys gwregysau gwyn, laniardau, gorchuddion coch a streipen goch seremonïol ar y trowsusau.
Y digwyddiad cyntaf i'r Osgordd Faneri fynychu oedd y Rali Injanau Tân a gynhaliwyd ym Maes Awyr Llwynhelyg yn 1984.
Wedi’r uno yn 1996, roedd yr Osgordd Baneri’n cynnwys cynrychiolaeth o hen Frigadau Gorllewin Morgannwg a Phowys ac ar ei hanterth, roedd yr Osgordd Baneri’n cynnwys 35 aelod.
Dros y blynyddoedd, mae'r Osgordd Baneri wedi mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys angladdau cydweithwyr o’r gorffennol a chydweithwyr sy'n gwasanaethu, seremonïau medalau ffurfiol, gwasanaethau cofio, cyngherddau carolau a phriodasau. Un ffaith nodedig yw bod yr Osgordd Baneri wedi mynychu Parêd Pabïau a Seremoni Cofio flynyddol Ypres yn rheolaidd ym Mhorth Menin, Ypres, Gwlad Belg.
Mae'r Osgordd Baneri’n aml yn derbyn rhoddion caredig sy'n cael eu trosglwyddo i Elusen y Diffoddwyr Tân.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Osgordd Baneri, cysylltwch â'r PST Roger Thomas i gael trafodaeth anffurfiol.