Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wraidd yr hyn a wnawn fel Gwasanaeth. Mae nid yn unig yn siapio sut rydyn ni'n ymgysylltu ac yn ymgynghori â'n cymunedau, ond hefyd yn dylanwadu ar y ffordd rydyn ni'n darparu ein gwasanaethau.



Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd yr hyn a wnawn yn y Gwasanaeth, ac maent yn werthoedd sy’n greiddiol i brosesau, arferion a diwylliant ein sefydliad. Ein nod yw sicrhau ein bod yn rhoi’r un gwerth ar bob un o’n gweithwyr, a’u bod yn cael yr un parch, a bod ein sefydliad yn cynrychioli'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Rydym wedi ymrwymo yn y Gwasanaeth i nodi, deall a dileu pob rhwystr sy'n atal mynediad at wasanaethau, gwybodaeth a chyflogaeth. Byddwn yn mynd ati mewn modd gweithredol i gefnogi aelodau o'n cymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i oresgyn anfantais, a hynny trwy hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth yn ein sefydliad.



Ar hyn o bryd, mae gan y Gwasanaeth nifer bach o rwydweithiau/fforymau cyflogeion ar waith, ac mae eu prif swyddogaethau fel a ganlyn:

  • ​Hyrwyddo materion ar gyfer cyflogeion;
  • Cyfrannu at agenda cynhwysiant ac amrywiaeth y sefydliad;
  • Rhoi cyngor ar ddatblygu polisïau;
  • Gwella'r amgylchedd gwaith ar gyfer cyflogeion.

Lansiodd y Gwasanaeth ei Fforwm Anabledd cyntaf ym mis Gorffennaf 2015, ac mae'r aelodaeth wedi tyfu'n gyson ers hynny. Mae'r fforwm yn agored i staff ag anableddau a'r rheiny sydd â diddordeb mewn materion anabledd a chynhwysiant. Hyd yma, mae'r materion sydd wedi'u codi wedi amrywio o wella hygyrchedd ein hadeiladau a'r wybodaeth a ddarparwn, i'r ffordd orau o helpu ein cydweithwyr yn y meysydd gweithredol ac ym maes Diogelwch Cymunedol i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r rheiny yn ein cymunedau sydd â mathau gwahanol o anableddau gweledol ac anweledol.

Mae'r fforwm yn cwrdd unwaith bob chwarter, a darperir diweddariad o bob cyfarfod i Dîm Arweinyddiaeth Weithredol y Gwasanaeth.

Er mai dim ond yn gynnar yn 2017 y cafodd y Rhwydwaith Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws/Rhwydwaith Cynghreiriaid Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws ei ffurfio, mae gan y Grŵp eisoes syniadau am feysydd polisi a darparu gwasanaethau yr hoffai ddylanwadu arnynt. Mae'r Grŵp yn cwrdd yn chwarterol, ac mae'n agored i gyflogeion sy'n eu hystyried eu hunain yn Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws, yn ogystal â chynghreiriaid.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl, yn gyfreithiol, rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yng nghymdeithas yn gyffredinol.

Fe wnaeth y Ddeddf unigol hon ddisodli’r amrywiol gyfreithiau gwrth-wahaniaethu blaenorol, gan wneud y gyfraith yn haws ei deall a chryfhau’r amddiffyniad mewn rhai sefyllfaoedd.  Mae’n traethu’r gwahanol ffyrdd y mae’n anghyfreithlon i drin rhywun.

Os am wybodaeth bellach am y Ddeddf ewch i'r dudalen Saesneg Equality Act 2010 Guidance ar safle we'r llywodraeth.

Mae Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn ein helpu i wella'r gwasanaethau rydym yn eu darparu yn ein cymunedau, yn ogystal â bywydau gwaith ein staff. Maent yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau, mentrau, penderfyniadau a gwasanaethau, gan ein helpu i ddileu unrhyw effeithiau andwyol y gallai'r polisïau, mentrau, penderfyniadau a gwasanaethau hynny eu cael er ein cyflogeion neu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, neu i liniaru'r effeithiau andwyol hyn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch ynglŷn ag Asesiadau Effaith Cydraddoldeb y gwasanaeth, cysylltwch â ni drwy:

Ebost adnoddaudynol@tancgc.gov.uk
Ffôn  01267 226839

Fel cyflogwr yn y sector cyhoeddus gyda thros 250 o staff, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru lunio Adroddiad ar y Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau o dan Reoliadau 2017 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae llunio adroddiad ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ofyniad gwahanol i gynnal archwiliad cyflog cyfartal – nid yw’n adolygiad o gyflog cyfartal ar gyfer gwaith cyfartal, yn hytrach mae’n nodi’r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (cymedrol a chanolrifol) gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, cymharu cyfraddau tâl fesul awr ac unrhyw fonysau y gall staff eu derbyn, gan geisio nodi unrhyw anghydbwysedd.

Bydd y canlyniadau’n cael eu defnyddio i asesu lefelau o gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ein gweithle; cydbwysedd gweithwyr gwrywaidd a benywaidd ar wahanol lefelau, a’r strategaethau rydym yn bwriadu eu defnyddio i ymdrin ag unrhyw wahaniaethau sydd gennym.

 



Cynlluniau ac adroddiadau



Contact us



Mid and West Wales Fire and Rescue Service
Service Headquarters
Lime Grove Avenue
Carmarthen
Carmarthenshire
SA31 1SP


Go to our online contact form

Call us: 0370 6060699

Cyfleoedd Cyfartal

Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru’n ymrwymedig i ddatblygu a hyrwyddo Cyfleoedd Cyfartal a Thegwch yn y Gweithle.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth