Ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, mae 75% o’n Gorsafoedd Tân yn cael eu criwio’n gyfan gwbl gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad. Maen nhw'n amddiffyn ein trefi bach a'n cymunedau gwledig.
Yn debyg i’r System Ddyletswydd Llawn Amser, mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn ymateb i danau a Galwadau Gwasanaeth Arbennig megis gwrthrawiadau ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, achub anifeiliaid, llifogydd a mwy. Mae hefyd gofyn iddynt hysbysu ac addysgu eu cymunedau lleol a chynnal ymweliadau Diogel ac Iach mewn cartrefi pobl.
Mae’n rhaid i Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad fyw neu weithio o fewn y gymuned leol ac maent yn hanu o bob cefndir. Y rhain yw’r bobl sy’n gallu rhoi o’u hamser i gynorthwyo’r Gwasanaeth Tân ac Achub gan ennill cyflog ar yr un pryd. Nid ydynt yn staffio'r gorsafoedd tân 24 awr y dydd fel diffoddwyr tân amser llawn. Maen nhw'n cael gwybod am alwad frys trwy alwr personol, y maen nhw'n ei gario gyda nhw pan maen nhw ar ddyletswydd. Mae gan rai o'n diffoddwyr tân ar alwad swyddi eraill gyda chytundeb gan eu cyflogwyr i adael i fynd i alwad frys os oes angen. Mae eraill ar gael y tu allan i oriau gwaith nodweddiadol fel gyda'r nos, ar benwythnosau neu rhwng rhediadau'r ysgol.