Dywedwch wrthym os ydych yn perthyn i Gynghorydd neu berson sy’n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, oherwydd mae’n rhaid sicrhau nad yw penderfyniadau ynglŷn â’r rhestr fer a’r cyfweliadau’n cael eu gwneud gan unrhyw un sy’n perthyn i’r ymgeisydd, cyn belled ag sy’n bosib.
Gallech anghymwyso eich cais os nad ydych yn datgelu, neu os ceisiwch ddylanwadu ar y broses trwy, berthynas sydd gennych gydag un o’r uchod.
Y cyfan sydd angen i chi nodi yw’r nifer o ddyddiau ac achlysuron o salwch yn ystod y 12 mis diwethaf. Nid oes yn rhaid i chi ddatgelu’r rhesymau am eich salwch. Fodd bynnag, os cewch eich penodi i’r swydd, bydd gofyn i chi gwblhau holiadur meddygol cyn cyflogi, ac efallai bydd gofyn i chi ymweld â’n tîm Iechyd Galwedigaethol am asesiad meddygol, cyn y gellir cynnig swydd i chi. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn gwbl gyfrinachol, a’r tîm Iechyd Galwedigaethol yn unig fydd yn cael mynediad i’r wybodaeth.
Mae rhai o’n swyddi’n golygu bydd angen gyrru a/neu’r gallu i deithio. Ticiwch y blwch priodol os ydych yn meddu ar drwydded yrru gyfredol. Gweler y Fanyleb Person i ganfod gofynion y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani.