Cwestiynau i'w gofyn i chi'ch hun



A oes gennych chi’r rhinweddau sydd eu hangen i fod yn ddiffoddwr tân ar alwad?

Mae’n bosib bydd y canlynol yn eich helpu i benderfynu p’un ai bod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yw’r yrfa gywir i chi:

Ydych chi'n

  • mwynhau gwneud pethau neu ddarganfod sut mae pethau’n gweithio?
  • ymrwymedig i gynnal a datblygu eich sgiliau bob amser?
  • ymrwymedig i gynnal eich ffitrwydd corfforol?
  • berson y gellir dibynnu arno i fod yn rhywle ar amser?
  • barod i weithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd, hyd yn oed pan na fyddwch yn gwybod pryd fydd y digwyddiad yn dod i derfyn?

 

A oes gennych

  • chi’r sensitifrwydd i ymdrin ag aelodau o’r cyhoedd pan eu bod mewn cyfyngder, yn gymysglyd neu’n bod yn rhwystrol?

 

A fedrwch chi

  • dod ymlaen yn dda gyda phobl o wahanol gefndiroedd a diwylliannau?
  • weithio fel rhan o dîm agos?
  • weithio dan bwysau?
  • feddwl ar eich traed a datrys problemau?
  • gymryd cyfrifoldeb am gynrychioli’r Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru, hyn yn oed pan nad ydych yn gweithio?
  • dilyn cyfarwyddiadau pobl eraill?

Allech chi

  • gyfleu gwybodaeth bwysig i grwpiau o blant ac oedolion?
  • ymdopi gyda gweithio sifftiau nos a gweithio ar benwythnosau / gwyliau cyhoeddus yn rheolaidd?

 

 

Map rôl diffoddwr tân

  • Cyfarwyddo ac addysgu eich cymuned er mwyn gwella ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â diogelwch
  • Cymryd cyfrifoldeb am berfformiad effeithiol
  • Achub a diogelu bywydau sydd mewn perygl
  • Datrys digwyddiadau gweithredol
  • Diogelu’r amgylchedd rhag effeithiau defnyddiau peryglus
  • Cynorthwyo gydag effeithiolrwydd yr ymateb gweithredol
  • Cynorthwyo gyda datblygiad cydweithwyr yn y gweithle
  • Cyfrannu at ddatrysiadau diogelwch er mwyn lleihau risgiau yn eich cymuned
  • Gyrru, symud ac adleoli cerbydau’r Gwasanaeth Tân