Cymerodd Diffoddwyr Tân Gorsafoedd Tân Treforys a Phontardawe ran mewn ymarferiad hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe ddydd Mercher, 11 Chwefror, a gynlluniwyd i gryfhau parodrwydd gweithredol.
Roedd y senario’n canolbwyntio ar weithdrefnau offer anadlu ac yn cynnwys digwyddiad ffug o dân mewn eiddo gydag adroddiadau fod nifer o bobl wedi'u dal y tu mewn iddo. Cafodd criwiau’r dasg o gynnal gweithrediadau chwilio ac achub mewn amodau heriol, llawn mwg, gan adlewyrchu'r pwysau a wynebir yn ystod argyfyngau go iawn.
Fel rhan o'r ymarfer, defnyddiwyd y Peiriant ag Ysgol Drofwrdd o Orsaf Dân Treforys fel tŵr dŵr ac i gael gwell golwg o leoliad y digwyddiad i wirio a oedd unrhyw dân yn lledaenu.
Roedd cydweithredu rhwng y Gorsafoedd Tân yn allweddol i lwyddiant cwblhau'r sesiwn hyfforddi hon. Mae sesiynau hyfforddi fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod Diffoddwyr Tân yn parhau i fod yn barod ar gyfer digwyddiadau cymhleth ac yn parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i gymunedau ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.