Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LlosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru y tymor llosgi hwn.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
03.11.2025
Yn ddiweddar, cymerodd disgyblion o Ysgol Henry Richard ac Ysgol Bro Teifi ran mewn cwrs Prosiect Ffenics yng Ngorsaf Dân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Llanbedr Pont Steffan.
Gan Steffan John
Rhaglen ymyrraeth a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Prosiect Ffenics, sydd wedi'i hanelu at bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd â phroblemau sy'n gysylltiedig â than, megis galwadau ffug a llosgi bwriadol. Gall pobl ifanc sydd naill ai wedi troseddu, sy'n debygol o droseddu, neu sy'n agored i niwed hefyd elwa o fynychu cwrs Prosiect Ffenics.
Mae'n herio agweddau presennol ac yn hyrwyddo meddwl annibynnol mewn pobl ifanc trwy ddefnyddio gweithgareddau'r Gwasanaeth Tân ac Achub (GTA) i ddatblygu priodoleddau personol megis gweithio fel tîm, archwilio cyfyngiadau corfforol a meddyliol a hyrwyddo ac addysgu pobl ifanc am rôl y GTA.
Rhwng Hydref 13eg a 17eg, mynychodd disgyblion o'r ddwy ysgol amrywiaeth o sesiynau yng Ngorsaf Dân Llanbedr Pont Steffan, gan gymryd rhan mewn sesiynau ar osod ysgolion, gofalu am gleifion a gosod pibellau dŵr. I gloi’r wythnos, cynhaliwyd arddangosiad i ddangos y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod yr wythnos, a chyflwynwyd tystysgrif i bob disgybl.
Am ragor o wybodaeth ar y Prosiect Ffenics a sut i gyfeirio rhywun ato, cliciwch isod os gwelwch yn dda.
31.10.2025
28.10.2025