08.01.2026

Diffoddwr Tân i gymryd rhan yn Ras y Tri Chopa

Mae disgwyl i Rhys Fitzgerald, Diffoddwr Tân Ar-alwad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yng Ngorsaf Dân Cydweli, ymgymryd â Ras y Tri Chopa ym mis Ionawr.

Gan Emma Dyer


Mae disgwyl i Rhys Fitzgerald, Diffoddwr Tân Ar-alwad gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yng Ngorsaf Dân Cydweli, ymgymryd â Ras y Tri Chopa ym mis Ionawr.

Mae'r her yn rhan o daith hyfforddi a chodi arian Rhys tuag at ei nod terfynol: dringo Mynydd Everest mewn cit Diffodd Tân llawn.

Ar 31 Ionawr, bydd cydweithwyr o bob rhan o'r Gwasanaeth yn ymuno ag ef i gymryd rhan yn Ras y Tri Chopa, gan ddringo cyfanswm o 2,900m o uchder, a hynny i gyd tra'n gwisgo cit diffodd tân.

Nid yw Rhys yn ddieithr i heriau eithafol. Mae eisoes wedi cwblhau sawl taith gerdded elusennol, wedi cyrraedd copa Ben Nevis, a dringo Ama Dablam, copa 6,182m yn Nhalaith Koshi yn Nepal. Drwy bob her, mae'n parhau i wthio’r ffiniau wrth godi arian ac ymwybyddiaeth am achosion sy'n agos at ei galon:

  • Elusen y Diffoddwyr Tân - elusen sy'n darparu cymorth gydol oes i ddiffoddwyr tân sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol, ac i’w teuluoedd.
  • Mind - sy'n darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac ymgyrchoedd i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
  • The Nimsdai Foundation – sy'n gweithio i glirio sbwriel sy’n cael ei adael ar Fynyddoedd yn yr Himalaya yn sgil teithiau blaenorol yn ogystal â chefnogi arwyr tawel y mynyddoedd, sef Porthorion Llwybr Base Camp Everest.

Mae Rhys wrthi'n codi arian drwy dudalen GiveStar, a bydd yr holl roddion yn cael eu rhannu rhwng talu cost yr antur a chael eu cyfrannu i'w ddewis o elusennau.

Mae pawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dymuno pob lwc i Rhys wrth gwblhau ei her!

 Rhoi


Erthygl Flaenorol