04.12.2025

Digwyddiad: Achub Gyrrwr o Lifogydd yn Llechryd

Ddydd Mercher, Rhagfyr 3ydd, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi a Chaerfyrddin i ddigwyddiad yn Llechryd.

Gan Steffan John



Am 1.23yp, ddydd Mercher, Rhagfyr 3ydd, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Aberteifi a Chaerfyrddin i ddigwyddiad yn Llechryd.

Ymatebodd criwiau i un fan a oedd yn sownd mewn dŵr llifogydd. Anfonwyd tîm cerdded trwy ddŵr gyda sled achub i gyrraedd ac achub gyrrwr y fan.

Cysylltodd y criwiau â’r Awdurdod Lleol i drefnu i’r ffordd gael ei chau oherwydd y llifogydd cyn iddynt adael am 2.37pm.



Gyrru Mewn Glaw Trwm

Mae'n hynod o hawdd dod ar draws llifogydd yn annisgwyl, yn enwedig ar ffyrdd anrhestredig a gwledig.  Os byddwch yn digwydd dod ar draws llifogydd annisgwyl a sydyn, yna peidiwch â gyrru ymlaen trwyddynt.  Trowch yn eich ôl a chwiliwch am ffordd amgen.  

Mae GTACGC yn annog preswylwyr ac ymwelwyr i fod yn ofalus wrth deithio mewn glaw trwm ac amodau tywydd gwael:

  • Cymerwch Ofal Ychwanegol
    Disgwylir i law trwm greu amodau gyrru peryglus, yn enwedig mewn ardaloedd isel ac arfordirol, felly cymerwch ofal ychwanegol
  • Osgowch Ardaloedd Peryglus
    Gall afonydd sydd wedi chwyddo ac ardaloedd arfordirol beri risgiau difrifol oherwydd lefelau dŵr sy'n codi'n gyflym a cherhyntau cryf.  Osgowch yr ardaloedd hyn lle bynnag y bo modd.
  • Peidiwch â Mynd i Mewn i Ddŵr Llifogydd
    Boed ar droed neu mewn cerbyd, peidiwch byth â cheisio croesi dŵr llifogydd.  Gall ymddangos yn fas, ond gall fod yn dwyllodrus o ddwfn ac yn symud yn gyflym, gyda’r gallu i ysgubo ceir i ffwrdd a pheryglu bywydau.
  • Cadwch yn Wybodus ac yn Barod
    Cadwch olwg ar ddiweddariadau tywydd lleol a chynlluniwch eich llwybrau teithio yn ofalus.

Mae rhagor o wybodaeth am yrru mewn glaw trwm ar gael yma.



Erthygl Flaenorol