02.02.2026

Digwyddiad: Cerbyd Wedi Troi Drosodd mewn Nant ym Mhengenffordd

Ddydd Sadwrn, Ionawr 31ain, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Talgarth a Chrughywel i wrthdrawiad ffordd ym Mhengenffordd ger Talgarth.

Gan Steffan John



Am 7.45yh, ddydd Sadwrn, Ionawr 31ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Talgarth a Chrughywel i ddigwyddiad ym Mhengenffordd ger Talgarth.

Ymatebodd y criwiau i wrthdrawiad traffig ffordd yn cynnwys un cerbyd modur preifat. Roedd y cerbyd wedi gadael y ffordd ac wedi rholio i lawr arglawdd a glanio ar ei do mewn nant.

Roedd yna un claf yn sownd yn y car ac roedd angen ei rhyddhau’n gyflym oherwydd roedd dŵr yn dod mewn i’r cerbyd a lefel dŵr y nant yn codi’n gyflym.  Defnyddiodd y criwiau offer torri e-draulic, siacedi achub, un bwrdd asgwrn cefn, golau ac ysgol estyn fyr.

Llwyddodd y criwiau i dynnu’r claf, a oedd gyda man anafiadau, allan o’r cerbyd a chafodd ei roi yng ngofal parafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans.  Gadawodd y criwiau am 9.51yh.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.



Erthygl Flaenorol