Am 10.25yb, ddydd Mawrth, Ionawr 6ed, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân y Drenewydd i ddigwyddiad yng Nghaersws.
Gwnaeth y criw, gan deithio mewn dwy injan dân, ac yn cynnwys tîm dŵr arbenigol, achub ci defaid o’r enw Lizzie. Roedd Lizzie wedi bod allan yn cerdded gyda’i pherchennog ger afon pan ddymchwelodd y lan a syrthiodd, gan fynd yn sownd mewn mwd meddal ar ymyl y dŵr.
Defnyddiodd y criw offer diogelwch dŵr, strapiau ac ysgol i gael Lizzie yn ôl i dir sych a sefydlog, ac i’w hailuno â’i pherchennog.
Gwelwyd rhai o aelodau criw'r Drenewydd gyda Lizzie a’i pherchennog yn y llun.