26.02.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Tri Chi o Dân Mewn Eiddo

Ddydd Llun, Chwefror 24ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberaeron a Chei Newydd eu galw i ddigwyddiad yn Nihewyd yng Ngheredigion.

Gan Steffan John



Am 3.02yp, ddydd Llun, Chwefror 24ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberaeron a Chei Newydd eu galw i ddigwyddiad yn Nihewyd yng Ngheredigion.

Ymatebodd y criwiau i dân a oedd wedi’i gyfyngu i hob o fewn eiddo domestig.  Defnyddiodd y criwiau ddau set o offer anadlu, un chwistrell olwyn piben, un camera delweddu thermol ac un ffan awyru pwysedd positif i ddiffodd y tân.

Gwnaeth y criwiau hefyd achub tri chi o’r eiddo.  Gadawodd y criwiau am 4.41yp.

Yn y llun mae rhai o’r Diffoddwyr Tân ar ôl y digwyddiad gyda’r tri chi wedi’u hachub.



Diogelwch wrth Goginio

Y gred yw bod y tân wedi ei dechrau wrth i’r popty gael ei droi ymlaen yn ddamweiniol, gydag eitemau wedi’u gadael ar ben y popty.

Mae tua 60% o danau yn y cartref yn dechrau yn y gegin, ond mae’n hawdd mwynhau coginio’n ddiogel gydag ychydig o gynllunio ac ymwybyddiaeth.

Mae gwybodaeth am ddiogelwch coginio ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf