06.02.2026

Digwyddiad Gwerthfawrogi’r Teulu yng Ngorsaf Dân Castellnewydd Emlyn

Ddydd Llun, 2 Chwefror, cynhaliwyd digwyddiad gwerthfawrogi yng Ngorsaf Dân Castellnewydd Emlyn, i'r criw Ar Alwad a'u teuluoedd.

Gan Emma Dyer



Ddydd Llun, 2 Chwefror, cynhaliodd Gorsaf Dân Castellnewydd Emlyn noson werthfawrogi’r teulu a’r criw i ddiolch i'w Diffoddwyr Tân Ar Alwad a'u teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus.

Mae ymrwymiad Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn dibynnu'n helaeth ar ddealltwriaeth a chefnogaeth eu teuluoedd, a hebddyn nhw, ni fyddai'r Gwasanaeth yn gallu bodloni anghenion cymunedau lleol.

Fel arwydd o werthfawrogiad, cyflwynwyd hamper cig i bob aelod o'r criw a'u teulu a ddarparwyd gan y cigyddion lleol, Dewi James a'i Gwmni. Cyflwynwyd y hamperi gan y Rheolwr Gwylfa Gethin Davies.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol