27.03.2025

Digwyddiad: Tân Adeilad Diwydiannol yn Nhanygroes

Ddydd Mercher, Mawrth 26ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi, Castellnewydd Emlyn, Cei Newydd ac Aberystwyth eu galw i ddigwyddiad yn Nhanygroes yng Ngheredigion.

Gan Steffan John



Am 10.11yb, ddydd Mercher, Mawrth 26ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberteifi, Castellnewydd Emlyn, Cei Newydd ac Aberystwyth eu galw i ddigwyddiad yn Nhanygroes yng Ngheredigion.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un adeilad diwydiannol unllawr yn mesur tua 20 metr wrth 30 metr.  Roedd to a phiniwn yr adeilad ar dân wrth i’r criwiau gyrraedd.

Defnyddiodd y criwiau dau set cyfarpar anadlu, tair chwistrell olwyn piben, un chwistrell 45ml, offer bach a dau gamera delweddu thermol i ddiffodd y tân.  Parhaodd y criwiau i fonitro a diffodd mannau poeth oedd ar ôl.  Credir fod y tân wedi ei achosi’n ddamweiniol.

Gadawodd y criwiau am 3.47yp.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf