13.12.2024

Digwyddiad: Tân Mewn Eiddo yn Kington

Ddydd Gwener, Rhagfyr 13eg, ymatebodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llandrindod a’r Gelli Gandryll, gyda chymorth Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon, i dân mewn eiddo yn Kington.

Gan Steffan John



Am 4.44yb ddydd Gwener, Rhagfyr 13eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llandrindod a’r Gelli Gandryll, gyda chymorth Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon, eu galw i ddigwyddiad yn Kington.

Ymatebodd criwiau i dân o fewn eiddo domestig deulawr, yn mesur tua 10 metr wrth 8 metr.  Defnyddiodd y criwiau ddwy chwistrell piben, camerâu delweddu thermol a dŵr o ffynhonnell ddŵr agored i ddiffodd y tân.  Cafodd yr eiddo ei ddifrodi’n sylweddol, gyda’r to ac un wal wedi eu dymchwel.

Gadawodd y criwiau am 9.22yb.

Diogelwch Tân yn y Cartref

Mae cael dealltwriaeth dda o ddiogelwch tân yn y cartref yn bwysig i’ch cadw chi a’ch teulu’n ddiogel, i atal tanau a sicrhau eich bod yn gwybod sut i ymateb yn gyflym mewn argyfwng.

GWYBODAETH DIOGELWCH Y CARTREF

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf