05.08.2025

Digwyddiad: Tân Mynydd yn Priest Weston

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Trefaldwyn a’r Trallwng, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig, i dân mynydd yn Priest Weston ddydd Sul, Awst 3ydd.

Gan Steffan John



Am 4.29yp ddydd Sul, Awst 3ydd, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Trefaldwyn a’r Trallwng i ddigwyddiad yn Priest Weston.

Gyda chefnogaeth criw o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig, ymatebodd y criwiau i dân mynydd a oedd yn mesur oddeutu 50 metr wrth 20 metr.  Defnyddiodd y criwiau bedwar chwistrell olwyn piben, a dau gurwr tân gwyllt i ddiffodd y tân.

Gadawodd y criwiau am 7.24yh.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol