21.07.2025

Digwyddiad: Tân Tractor yn Llangeler

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Llandysul, Aberteifi, Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Castellnewydd Emlyn a Llanelli i dân tractor yn Llangeler ar ddydd Gwener, Gorffennaf 18fed.

Gan Steffan John



Am 2.17yp ddydd Gwener, Gorffennaf 18fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llandysul, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Castell Newydd Emlyn a Llanelli eu galw i ddigwyddiad yn Llangeler yn Llandysul.

Ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un tractor, roedd y tân wedi lledu i fyrnau, dau gerbyd ac eiddo cyfagos.  Roedd y tân yn yr eiddo, a achoswyd gan y lledaeniad, wedi'i gyfyngu i'r gegin a'r atig.

Gweithiodd y criwiau'n gyflym i ddiffodd y tân ac i'w atal rhag lledaenu ymhellach.  Defnyddiwyd wyth set o offer anadlu, tair chwistrell olwyn piben, un chwistrell gorchuddio a system gludo dŵr i ddiffodd y tân.  Ar ôl diffodd y tân, bu Diffoddwyr Tân yn monitro’r lleoliad am unrhyw fannau poeth a oedd yn weddill.

Gadawodd y criwiau am 5.43yp.









Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf