12.08.2025

Digwyddiad: Tân Ysgubor yn Aberhonddu

Ymatebodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Aberhonddu, Talgarth, Crughywel, Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod i dân ysgubor yn Aberhonddu ddydd Sul, Awst 10fed.

Gan Steffan John



Am 7.51pm nos Sul, Awst 10fed, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Aberhonddu, Talgarth, Crughywel, Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod i ddigwyddiad yn Libanus yn Aberhonddu.

Gyda chefnogaeth criw o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymatebodd y criwiau i dân yn effeithio ar un ysgubor unllawr, yn mesur tua 45 metr wrth 20 metr.  Roedd y tân yn cynnwys tua 29 tunnell o fyrnau gwellt ac offer fferm bach.

Tynnwyd y gwellt o'r ysgubor a'i symud i gae cyfagos.  Bu'r criwiau yna’n rhan o'r gwaith o leddfu mannau poeth.  Defnyddiodd criwiau gyfanswm o chwe chwistrell olwyn piben, pedwar pwmp, un pwmp ymateb gwledig a dau tancer dŵr.

Cafodd yr ysgubor ei difrodi'n ddifrifol gan y tân.  Gadawodd y criwiau am 12.yb ddydd Llun, Awst 11eg.



Profi Tymheredd Byrnau Am Ddim

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig profion tymheredd a chynnwys lleithder am ddim ar gyfer byrnau, yn ogystal ag amrywiaeth o ffyrdd eraill i'ch cadw chi a'ch fferm yn ddiogel rhag tân.

Yn dibynnu ar y darlleniadau a dderbyniwn, byddwn wedyn yn gweithio gyda chi i lunio cynllun i reoli'r risg o hylosgiad digymell.

I archebu profiad tymheredd byrnau am ddim, cysylltwch â'n Swyddog Cyswllt Fferm ar 0800 169 1234 neu e-bostiwch farmsliaisonofficer@mawwfire.gov.uk.

Os yw'r byrnau yn mudlosgi neu ar dân, ffoniwch 999.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Diogelwch Rhag Tân Fferm Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gael yma.


Erthygl Flaenorol