18.02.2026

Digwyddiad Ymgysylltu Diogelwch Tân Busnesau yn Harbwr Saundersfoot

Ddydd Mercher 11 Chwefror, cynhaliodd cydweithwyr o'n tîm Diogelwch Tân Busnesau’r Gorllewin ddigwyddiad ymgysylltu yng Nghanolfan Ragoriaeth Forol Harbwr Saundersfoot.

Gan Emma Dyer


Ddydd Mercher 11 Chwefror, cynhaliodd cydweithwyr o'n tîm Diogelwch Tân Busnesau’r Gorllewin ddigwyddiad ymgysylltu yng Nghanolfan Ragoriaeth Forol Harbwr Saundersfoot.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ymgysylltu'n uniongyrchol â busnesau lleol a chynnig arweiniad ar gyflawni eu cyfrifoldebau diogelwch tân.

Roedd pum busnes lleol yn bresennol i ddysgu mwy am ofynion diogelwch tân a sut i sicrhau bod eu hadeiladau’n parhau i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth statudol gyfredol.

Yn ystod y sesiwn, cafwyd dau gyflwyniad gan gydweithwyr yn ymdrin â phwysigrwydd diogelwch tân, dyletswyddau cyfreithiol perchnogion busnesau, a'r camau ymarferol sy'n ofynnol i gynnal cydymffurfiaeth.

Dywedodd Rheolwr Diogelwch Tân Adran y Gorllewin, Gary Smith:

"Mae ymgysylltu'n uniongyrchol â'n cymuned fusnes leol yn hanfodol i gryfhau diogelwch tân ar draws ein hardal. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein galluogi i ddarparu arweiniad clir ac ymarferol a meithrin cysylltiadau sy'n helpu i gadw pobl ac adeiladau yn ddiogel. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau i ddeall eu cyfrifoldebau a chreu gweithleoedd mwy diogel i bawb."



Diolch i bawb am ddod ac am gyfrannu at ddigwyddiad cadarnhaol a difyr.




Erthygl Flaenorol