16.02.2026

Golchi Ceir Elusennol Gorsafoedd Tân Llanandras a Threfyclo

Ddydd Sadwrn, 28 Mawrth, bydd pedair gorsaf dân ar draws dau Wasanaeth Tân ac Achub - a dwy wlad - yn uno ar gyfer cyfres o sesiynau golchi ceir elusennol yr un pryd.

Gan Steffan John



Ddydd Sadwrn, 28 Mawrth, bydd pedair gorsaf dân ar draws dau Wasanaeth Tân ac Achub - a dwy wlad - yn uno ar gyfer cyfres o sesiynau golchi ceir elusennol yr un pryd.

Bydd Gorsafoedd Tân Llanandras a Threfyclo Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), ynghyd â Gorsafoedd Tân Kington a Kingsland Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon, yn cynnal sesiynau golchi ceir cymunedol i gefnogi dwy elusen bwysig.



Nod y digwyddiadau yw codi arian hanfodol ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân a 2wish, gan helpu i gefnogi personél tân ac achub a theuluoedd yr effeithir arnyn nhw gan brofedigaeth sydyn.

  • Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn cynnig cymorth gydol oes i les meddyliol, corfforol a chymdeithasol Diffoddwyr Tân sy'n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol, eu teuluoedd, a phersonél eraill y Gwasanaeth Tân ac Achub. Cafodd yr Elusen ei sefydlu yn 1943 ac mae’n cael ei hariannu trwy roddion a digwyddiadau codi arian gan y Gwasanaethau Tân ac Achub. Mae'n adnodd hanfodol i'r rhai sy'n cysegru eu bywydau i amddiffyn eraill.

  • Mae 2wish yn gweithio i sicrhau bod pawb sy'n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn ac annisgwyl plentyn neu oedolyn ifanc yn derbyn y cymorth profedigaeth sydd ei angen arnynnhw. Mae'r gefnogaeth maen nhw’n ei ddarparu yn rhad ac am ddim, yn gyfrinachol ac wedi'i theilwra i anghenion pob unigolyn.


Bydd pob Gorsaf Dân yn cynnal ei golchi ceir elusennol rhwng 9.30am a 2pm, gan gynnig cyfle i aelodau'r cyhoedd gefnogi eu Diffoddwyr Tân lleol tra’n codi arian ar gyfer dau achos pwysig.  Mae aelodau'r gymuned yn cael eu hannog i ddod â'u cerbydau draw a rhoi rhodd yn gyfnewid am gael eu golchi gan y criwiau.

Yn ogystal â rhoddion ar y dydd, mae'r criwiau'n gwahodd busnesau a thrigolion lleol i noddi Diffoddwr Tân neu Gadet Tân.  Am gyfraniad o o leiaf £20, bydd noddwyr nid yn unig yn rhoi rhodd tuag at y ddwy elusen, ond byddan nhw hefyd yn ariannu crys-t wedi'i bersonoli ar gyfer Diffoddwr Tân neu Gadet Tân, gyda’r personoliad yn cael ei ddarparu'n garedig iawn yn rhad ac am ddim gan Stitch.  Bydd noddwyr hefyd yn cael eu cydnabod gyda neges ddiolch a rennir ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaeth Tân ac Achub.

Gofynnir i unrhyw un sy'n dymuno noddi Diffoddwr Tân neu Gadet Tân gysylltu â thudalen Facebook Gorsaf Dân Llanandras yn uniongyrchol.



Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol