Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Rydym yn cyflogi dros 1,350 o aelodau staff ac yn gwasanaethu bron 12,000 cilomedr sgwâr - bron i ddwy ran o dair o Gymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LlosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru y tymor llosgi hwn.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
06.01.2026
Ddechrau Rhagfyr, fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gefnogi’r nawfed confoi, a drefnwyd gan FIRE AID, i fynd â chymorth brys i Ddiffoddwyr Tân Wcráin, sy'n wynebu heriau gweithredol eithafol.
Gan Steffan John
Mae FIRE AID yn elusen sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, a sefydlwyd yn 2012. Ei diben yw bod yn ganolbwynt ar gyfer rhannu gwybodaeth ac adnoddau er mwyn cryfhau ymdrechion ymateb brys ledled y byd.
Y Rheolwr Gwylfa, Rob Kershaw, oedd yn cynrychioli GTACGC ar y confoi, ac ef yw cynrychiolydd FIRE AID y Gwasanaeth. Dyma ddywedodd Rob am fod yn rhan o’r confoi:
“Mae wedi bod yn fraint cael cynrychioli GTACGC ar y confoi, ac rwy’n ddiolchgar iawn o gefnogaeth y Gwasanaeth. Mae hyn wedi sicrhau ein bod yn gallu cynnig cymorth hollbwysig i’r diffoddwyr sydd ar y rheng flaen yn Wcráin.
Pan oeddwn i yn y confoi, fe wnes i gwrdd â chriw Diffodd Tân o Wcráin a oedd wedi colli eu peiriant dair wythnos ynghynt mewn ymosodiad wedi’i dargedu. Cerbyd o ddyddiau’r Undeb Sofietaidd oedd hwnnw, ac roedden nhw wedi’i gynnal a’i gadw am flynyddoedd lawer. Felly roedd cael peiriant modern yn ei le yn dipyn o newid, ac yn welliant sylweddol yr mawr ei angen. Tra bues i’n treulio amser gyda'r criw i'w helpu i ddod i arfer â'r peiriant newydd, cefais i glywed am eu profiadau o ymateb i ddigwyddiadau dan amodau peryglus. Roedd hyn drawiadol a theimladwy ac yn ein hatgoffa o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu bob dydd."
Roedd pob Gwasanaeth Tân ac Achub a gymerodd ran yn cyfrifo’u hanghenion lleol eu hunain ac yn blaenoriaethu diogelwch eu cymunedau cyn cyfrannu unrhyw offer oedd ganddyn nhw dros ben.
Fel rhan o'u hymrwymiad i gefnogi Diffoddwyr Tân Wcráin, mae FIRE AID wedi lansio Brave Minds, menter newydd sy'n cynnig gwasanaeth iechyd meddwl wedi'i deilwra, bedair awr ar hugain y dydd. Nod y gwasanaeth yw helpu'r rhai sydd dan bwysau seicolegol enfawr wrth ymateb i argyfyngau mewn rhyfel.
07.01.2026
02.01.2026
30.12.2025
29.12.2025