29.09.2025

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi adroddiad ymgysylltu nodedig ar Reoli Risg Cymunedol 2040

Heddiw, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad ar yr Arolwg Ymgysylltu ar gyfer Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRhRC) 2040, sy'n nodi carreg filltir arwyddocaol wrth lunio dyfodol gwasanaethau tân ac achub ledled y rhanbarth.

Gan Rachel Kestin



Heddiw, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad ar yr Arolwg Ymgysylltu ar gyfer Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRhRC) 2040, sy'n nodi carreg filltir arwyddocaol wrth lunio dyfodol gwasanaethau tân ac achub ledled y rhanbarth.

Mae'r adroddiad, sy'n seiliedig ar ymgysylltiad helaeth â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, yn casglu lleisiau dros 728 o ymatebwyr ac yn adlewyrchu blaenoriaethau, pryderon a dyheadau cymunedau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'n ffurfio conglfaen gweledigaeth hirdymor y Gwasanaeth i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

Mae prif ganfyddiadau'r adroddiad yn cynnwys:

  • Dylai'r Gwasanaeth drin amseroedd ymateb i argyfyngau, mentrau diogelwch cymunedol a chefnogaeth i unigolion agored i niwed fel blaenoriaeth.
  • Mynegodd ymatebwyr gefnogaeth gref i orsafoedd tân lleol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan nodi eu rôl hanfodol mewn ymateb cyflym ac ymddiriedaeth gymunedol.
  • Cafodd rôl esblygol y Gwasanaeth mewn argyfyngau meddygol, digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, ac addysg gymunedol ei gydnabod a'i gymeradwyo'n eang.
  • Codwyd pryderon am bwysau ariannu, recriwtio a chadw a'r angen am ddiwygio diwylliannol o fewn y Gwasanaeth.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Roger Thomas:

"Mae'r adroddiad hwn yn dyst i bŵer gwrando. Rydym yn ddiolchgar i bob unigolyn, sefydliad ac aelod etholedig a gymerodd yr amser i rannu eu barn. Bydd yr adborth yn llywio’n uniongyrchol sut rydym yn addasu, buddsoddi ac arloesi i ddiwallu anghenion newidiol ein cymunedau."



Roedd y broses ymgysylltu yn cynnwys 34 o sesiynau galw heibio, ymgyrchoedd hysbysebu digidol, gweminarau, ac estyn allan i dros 2,350 o randdeiliaid, gan sicrhau ymateb amrywiol a chynrychioliadol.

Y Camau Nesaf

Bydd canfyddiadau Adroddiad Arolwg Ymgysylltu CRhRC 2040 nawr yn cael eu hystyried yn ofalus gan Dîm Arweinyddiaeth Weithredol y Gwasanaeth. Bydd pob thema ac argymhelliad yn cael ei adolygu'n fanwl i lywio cynllunio yn y dyfodol, blaenoriaethau gweithredol a dyrannu adnoddau. Mae hyn yn cynnwys asesu hyfywedd newidiadau arfaethedig i wasanaethau, nodi meysydd i'w gwella a sicrhau bod adborth y gymuned yn cael ei integreiddio'n ystyrlon i'r broses o wneud penderfyniadau.

Bydd y Gwasanaeth hefyd yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r cyhoedd i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd trwy gydol y cyfnod gweithredu. Bydd CRhRC 2040 yn arwain GTACGC wrth fynd i'r afael â risgiau sy'n dod i'r amlwg, gwella’r modd y darperir gwasanaethau, a chryfhau partneriaethau. Mae'r Gwasanaeth wedi ymrwymo i hyblygrwydd, cynhwysiant a gwelliant parhaus.

Cael Mynediad i’r Adroddiad

Mae Adroddiad llawn Arolwg Ymgysylltu CRhRC 2040 ac Adroddiad Cryno 2025 ar gael ar wefan y Gwasanaeth.

Erthygl Flaenorol