10.04.2026

Hyfforddiant Chwilio ac Achub Rhyngwladol yng Nglannau Mersi

Cynhaliodd Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU gwrs Rhyngwladol ar Atgyfnerthu Strwythurau â Phren yn ddiweddar yng Nglannau Mersi.

Gan Steffan John



Cynhaliodd Tîm Chwilio ac Achub Rhyngwladol y DU (UK-ISAR) gwrs Rhyngwladol ar Atgyfnerthu Strwythurau â Phren yn ddiweddar yng Nglannau Mersi.

Wedi'i gynnal yn Academi Hyfforddiant a Datblygu Gwasanaeth Tân ac Achub Glannau Mersi, daeth y cwrs â Diffoddwyr Tân o wledydd ledled y byd, gan gynnwys yr Wcráin, yr Iseldiroedd, Taiwan a Lithwania, ynghyd am wythnos ddwys ac ymarferol o hyfforddiant.

Cyflwynwyd y cwrs yn unol â methodoleg y Grŵp Cynghori Chwilio ac Achub Rhyngwladol (INSARAG), gan sicrhau bod yr holl gyfarwyddyd yn adlewyrchu safonau cydnabyddedig yn rhyngwladol ar gyfer gweithrediadau chwilio ac achub trefol.

Yn cynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) roedd y Diffoddwr Tân a Thechnegydd UK-ISAR Charlie Seaman.  Roedd y cwrs yn cynnwys sesiynau’n canolbwyntio ar dechnegau safonol ac uwch a ddefnyddir yn ystod ymateb i drychinebau rhyngwladol, gyda hyfforddwyr yn cymhwyso'r dull 'Esbonio, Arddangos, Efelychu, Ymarfer' i sicrhau eglurder, hyder a chymhwysedd ymarferol trwy'r amser.

Dangosodd y cwrs werth hyfforddiant ar y cyd, cyfnewid proffesiynol ac ymrwymiad i welliant parhaus. Trwy fuddsoddi mewn safonau a rennir a chydweithredu ymarferol, mae'r gymuned chwilio ac achub fyd-eang yn parhau i wella ei pharodrwydd i ymateb yn effeithiol lle bynnag y mae ei angen.

UK-ISAR yw ymateb swyddogol Llywodraeth y DU i drychinebau rhyngwladol, wedi'i ariannu a'i gefnogi gan FCDO (Swyddfa Dramor y Gymanwlad a Datblygu).




Erthygl Flaenorol