04.12.2025

Recriwtiaid Amser Cyflawn Newydd ar Ddiwrnod Hyfforddi Diogelwch Tân Busnes

Ddydd Gwener, 28 Tachwedd, aeth aelodau o'n tîm Diogelwch Tân Busnes ar ‘ymweliad ymgyfarwyddo’ i ganolfan siopa’r Quadrant yn Abertawe gyda’r garfan ddiweddaraf o Recriwtiaid Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn. 

Gan Rachel Kestin



Ddydd Gwener, 28 Tachwedd, aeth aelodau o'n tîm Diogelwch Tân Busnes ar ‘ymweliad ymgyfarwyddo’ i ganolfan siopa’r Quadrant yn Abertawe gyda’r garfan ddiweddaraf o Recriwtiaid Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn. 

Mae'r ymweliad ymgyfarwyddo, sef 'ymweliad 7(2)(d)' yn ffurfiol, wedi'i gynllunio i helpu diffoddwyr tân i ddysgu am yr adeiladau masnachol sydd o fewn ardal eu gwasanaeth.

Fe wnaeth ein Recriwtiaid Amser Cyflawn newydd a Rheolwr Diogelwch Tân GTACGC, Darren Rees, gwrdd â staff canolfan siopa’r Quadrant er mwyn gweld rhai o'r nodweddion a'r systemau diogelwch y byddech yn disgwyl eu gweld mewn adeilad o'r fath.

Daeth y Recriwtiaid Amser Cyflawn newydd i ddeall yr ystod o systemau sydd fel arfer wedi'u gosod mewn adeiladau masnachol. Mae'r rhain yn cynnwys System Larwm Tân, System Goleuadau Brys, Fentiau sy’n Agor yn Awtomatig (AOVs), System Rhybudd Llais, System Llenni Mwg a mwy.

  

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Tân Darren Rees:

“Mae datblygu dealltwriaeth glir a gwella ein gwybodaeth o sut mae'r systemau hyn yn gweithredu mewn adeiladau fel The Quadrant yn hanfodol i ddiffoddwyr tân. Mae'n sicrhau eu bod yn gallu adnabod risgiau nad oedden nhw’n ymwybodol ohonyn nhw o'r blaen, ac i nodi unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau neu brosesau ers yr ymweliad diwethaf.”



Hoffem ddiolch yn fawr i'r Quadrant am ein croesawu i'r safle, ac am ganiatáu i'r recriwtiaid Amser Cyflawn newydd gael dealltwriaeth a gwybodaeth ymarferol am Ddiogelwch Tân Busnes. 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf