Croesawodd Amgueddfa Awyrennau De Cymru (SWAM) dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (ChAT Cymru) ddechrau mis Rhagfyr i ymarfer hyfforddi cynhwysfawr ar y cyd er mwyn cryfhau galluoedd ymateb mewn digwyddiadau sy'n gysylltiedig ag awyrennau.
Mae Tîm ChAT Cymru, yn allu arbenigol ar y cyd gan GTACGC a GTADC ar ran y tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru. Mae e’n dod â phersonél hyfforddedig iawn, cŵn chwilio, dronau ac offer achub trwm i ddarparu ymateb 24/7 i ddigwyddiadau mawr i gefnogi cydnerthedd cenedlaethol a chymorth rhyngwladol.
Rhoddodd arbenigwyr yr amgueddfa ganllawiau am y peryglon sy'n gysylltiedig ag awyrennau sifil a milwrol, gan rannu gwybodaeth weithredol na ellir ei hailadrodd mewn amgylcheddau hyfforddi safonol.
Galluogodd y maes hyfforddi unigryw i bedwar ar ddeg o dechnegwyr ChAT ymarfer gweithdrefnau confoi, sefydlu safle cychwynnol, a defnyddio Systemau Lobo ar dir caled a meddal ill ddau ar gyfer amrywiaeth o awyrennau – gan gynnwys jetiau hyfforddi bach megis y Gnat a llwyfannau mwy gan gynnwys yr RAF Avro Shackleton, a ymddeolodd ym 1991 ar ôl mwy na 40 mlynedd o wasanaeth.
Roedd Lobo Systems, twr modiwlaidd a llwyfannau mynediad, yn ganolog i'r hyfforddiant ac fe ddangoson nhw eu gallu i ddarparu modd i weithio’n ddiogel ar uchder hyd at tua chwe metr. Mae eu dyluniad addasadwy yn darparu llwybrau mynediad diogel a llwybrau cerdded sefydlog, gan gefnogi tasgau adfer technegol wrth sicrhau cadw tystiolaeth hanfodol yn ystod ymchwiliadau ar ôl digwyddiad.