09.02.2026

Tîm Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cwblhau Her Tri Chopa Cymru

Ar 31 Ionawr, llwyddodd y Diffoddwr Tân Rhys Fitzgerald a thîm bach o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gwblhau Her Tri Chopa Cymru.

Gan Emma Dyer



Ar 31 Ionawr, llwyddodd y Diffoddwr Tân Rhys Fitzgerald a thîm bach o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gwblhau Her Tri Chopa Cymru.

Fe wnaeth y Prif Swyddog Tân Craig Flannery, Tom Wass o Diogelwch Tân Busnesau, a Tanja Fletcher a Joel Freeman o Orsaf Dân Llandeilo ymuno â Rhys, o Orsaf Dân Cydweli.

Er gwaethaf y tywydd gwlyb ac oer, a’r gofynion corfforol sylweddol, fe wnaeth y tîm gwblhau’r her mewn 15.5 awr, gan ddangos penderfynoldeb a gwaith tîm eithriadol trwy'r cyfan.

Ar ôl cwblhau’r her, dywedodd Rhys Fitzgerald:

"Roedd ymrwymiad a gwytnwch y tîm trwy gydol yr her yn adlewyrchiad o werthoedd yr elusennau rydyn ni’n eu cefnogi. Roedd yn arddangosiad pwerus o waith tîm, dyfalbarhad a phwrpas, gan brofi y gall y meddylfryd iawn ein helpu i oresgyn hyd yn oed dan yr amodau anoddaf."




Mae'r her yn rhan o gyfres o heriau elusennol y mae Rhys am eu cwblhau i gefnogi Prosiect Tân, gan gasglu arian ar gyfer Mind, Elusen y Diffoddwyr Tân, a Sefydliad Nimsdai.

Gall unrhyw un sy’n awyddus i gefnogi Rhys a Phrosiect Tân gyfrannu gan ddefnyddio ei dudalen GiveStar.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf