02.02.2026

Ymarferiad Hyfforddi yng Ngharchar Abertawe

Ddiwedd mis Rhagfyr, cymerodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarferiad hyfforddi offer anadlu gyda’r nos o'r enw ‘Bloc Cell’, a gynhaliwyd yng Ngharchar Abertawe.

Gan Rachel Kestin



Ddiwedd mis Rhagfyr, cymerodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarferiad hyfforddi offer anadlu gyda’r nos o'r enw ‘Bloc Cell’, a gynhaliwyd yng Ngharchar Abertawe.

Roedd yr ymarferiad yn caniatáu i'r criwiau o Orsaf Dân Gorllewin Abertawe ymarfer eu hymatebion wrth ddelio â thanau mewn adeiladau cymhleth gyda mynediad cyfyngedig. Carchar Abertawe oedd y lleoliad delfrydol i roi amgylchedd realistig i'r criw. Roedd yn caniatáu iddynt brofi eu setiau Offer Anadlu, eu gweithdrefnau Rheoli Digwyddiadau, eu hasesiadau risg dadansoddol, mynd i mewn i ardaloedd â mynediad cyfyngedig heriol a mwy.


Dywedodd y Rheolwr Gwylfa, Brian Bowen:

"Roedd yr ymarferiad hyfforddi yng Ngharchar Abertawe yn llwyddiannus iawn, gan roi profiad ymarferol gwerthfawr i'n criwiau o gyflawni achubiadau mewn ardaloedd â mynediad cyfyngedig o fewn cynllun adeilad heriol. Gweithiodd pawb a gymerodd ran yn ddiflino i brofi ein gweithdrefnau mewn amgylchedd realistig, gan greu sylfaen ardderchog ar gyfer dysgu a gwella."



Diolch i Garchar Abertawe am ddarparu'r lleoliad perffaith ar gyfer yr hyfforddiant, ac i'r holl griwiau a gymerodd ran.









Erthygl Flaenorol