O 1 Ebrill 2026, a thrwy gydol gweddill y flwyddyn, byddwn yn dathlu'r pen-blwydd arwyddocaol hwn. Mae'n cynnig cyfle nid yn unig i fyfyrio ar gyflawniadau'r Gwasanaeth, ond hefyd i gydnabod y bobl sydd wedi llunio ei daith. Mae diffoddwyr tân, staff rheoli, timau cymorth, a gwirfoddolwyr i gyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn ein cymunedau, yn aml mewn amgylchiadau heriol ac anrhagweladwy.
Wrth i ni nodi tair degawd o wasanaeth, mae'r pen-blwydd hwn yn sefyll fel tystiolaeth i'n hymrwymiad - ac yn foment i edrych ymlaen: cryfhau partneriaethau cymunedol, croesawi arloesedd, a pharhau â'n cenhadaeth i gadw Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel am genedlaethau i ddod. Os oes gennych unrhyw straeon, atgofion, neu luniau o'r 30 mlynedd diwethaf, byddem wrth ein bodd yn eu gweld a'u rhannu fel rhan o'n dathliadau.
Anfonwch nhw at: pressofficer@mawwfire.gov.uk