Wrth i’r hydref droi’n aeaf, bydd llawer o aelwydydd yn cymryd blancedi trydan allan o’u cypyrddau i helpu i leihau costau gwresogi. Er y gall blancedi trydan fod yn ffordd wych, gost-effeithiol o gadw’n gynnes, mae’n bwysig eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac mewn cyflwr da.
Er mwyn cefnogi preswylwyr, bydd aelodau o Dîm Diogelwch Cymunedol GTACGC yn cynnal gwiriadau diogelwch ar flancedi trydan am ddim, gan archwilio blancedi am ddiffygion posibl ac arwyddion o draul a allai gynyddu’r risg o dân.
Yn ystod y sesiynau profi, byddwn yn edrych ar y blancedi trydan i chwilio am:
- Ffabrig wedi rhwygo neu wedi gwisgo
- Marciau llosgi neu arwyddion o orboethi
- Gwifrau agored neu weladwy
- Teclynnau rheoli, plygiau neu gysylltwyr wedi’u difrodi
- Traul cyffredinol a allai olygu nad yw’n gweithio’n ddiogel
Bydd aelodau’r Tîm Diogelwch Cymunedol hefyd ar gael i roi cyngor ymarferol ar atal tân a diogelwch tân yn y cartref, gan helpu preswylwyr i leihau risgiau ac aros yn ddiogel trwy gydol misoedd y gaeaf.
Sesiynau yng Ngorsafoedd Tân Ceredigion:
- Gorsaf Dân Aberystwyth – 9am-12pm ddydd Iau, Hydref 1af
- Gorsaf Dân Aberaeron – 2-4pm ddydd Iau, Hydref 1af
- Gorsaf Dân Llanbedr Pont Steffan – 9am-12pm ddydd Llun, Hydref 12fed
- Gorsaf Dân Aberteifi – 1-4pm ddydd Llun, Hydref 12fed
