Ni waeth beth yw ei faint, mae busnes sy’n gweithredu ar draws ffiniau awdurdod lleol yn medru ffurfio partneriaeth awdurdod sylfaenol gydag awdurdod lleol sengl, mewn perthynas â chydymffurfio rheoleiddiol.
Daeth Deddf Gorfodaeth Reoliadol a Sancsiynau 2008 (yn agor yn ffenest/tab newydd) (RESA 2008) i rym ar Hydref y 1af 2008 ac, ymhlith pethau eraill, mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodaeth reoliadol fwy cyson a chyd-drefnedig, trwy sefydlu’r Cynllun Awdurdod Sylfaenol.
Mae’r Cynllun Awdurdod Sylfaenol yn gynllun statudol a weinyddir gan y Swyddfa Rheoliadau Gwell (yn agor yn ffenest/tab newydd) (BRDO), a dyma’r fynedfa i reolaeth leol symlach a mwy llwyddiannus, sy’n galluogi busnesau i ffurfio partneriaeth statudol gydag awdurdod lleol sengl, sydd yna’n rhoi cyngor cadarn a dibynadwy i awdurdodau eraill i’w ddwyn i ystyriaeth wrth gynnal archwiliadau neu ymdrin ag anghydffurfio.
Y Manteision
Ni waeth beth yw ei faint, mae busnes sy’n gweithredu ar draws ffiniau awdurdod lleol yn medru ffurfio partneriaeth awdurdod sylfaenol gydag awdurdod lleol sengl, mewn perthynas â chydymffurfio rheoleiddiol. Mae’r partneriaethau yma’n medru cynnwys iechyd yr amgylchedd a safonau masnachu neu swyddogaethau penodol, megis diogelwch bwyd neu drwyddedu petrolewm. O’r 6ed o Ebrill 2014, bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei ymestyn i gynnwys diogelwch tân, ac mae’r diwygiad yn rhan o ymdrech y Llywodraeth i leihau’r faich ar fusnesau, trwy sicrhau bod y rheoliadau angenrheidiol yn cael eu gorfodi’n fwy effeithlon.
Dylai busnesau fod yn medru dibynnu ar y cyngor ar ddiogelwch tân maent yn ei dderbyn gan Wasanaethau Tân ac Achub, yn yr wybodaeth ei fod yn farn arbenigol ac yn sail gadarn ar gyfer buddsoddi a phenderfyniadau gweithredol. Mae Awdurdod Sylfaenol yn ymdrin ag anghysondeb, mae’n rhoi cyngor sicr ac mae’n cydweddu’n dda gyda strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwell rheolaeth trwy gynnig:
- Mwy o hyder a sicrwydd i fusnesau
- Gostyngiad net mewn costau a beichiau eraill i fusnesau a rheoleiddwyr
- Gwell modd o dargedu adnoddau rheoleiddiol yn seiliedig ar risg
- Gwell amddiffyniad i gymunedau a masnachwyr
- Mwy o lewyrch i ardaloedd lleol
- Mwy o gyfrifoldeb i fusnesau
Gwybodaeth bellach
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am Awdurdod Sylfaenol trwy ddilyn y dolenni canlynol: