Cofrestr Gyhoeddus Hysbysiadau



Fel rhan o’n gwaith i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymweld, ac yn archwilio amryw o safleoedd busnes a masnachol. 

Os ydym yn darganfod problemau a allai wneud y safle’n anniogel, medrwn gymryd camau i sicrhau bod y person sy’n gyfrifol am y safle’n datrys y problemau yma. 

Mae hyn yn cynnwys gweini hysbysiadau cyfreithiol, sy’n gofyn i’r person cyfrifol i gymryd camau penodol, oddi fewn i gyfnod penodedig fel arfer, i sicrhau bod y safle’n ddiogel. 

Fel awdurdod gorfodi deddfwriaeth diogelwch tân, mae’n ofynnol i ni, yn unol â’r gyfraith (Deddf Gwybodaeth am yr Amgylchedd a Diogelwch 1988), i gadw cofrestr gyhoeddus sy’n rhoi peth gwybodaeth am yr hysbysiadau yma. Mae'r gofrestr hon yn cael ei rheoli gan Gyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC).

Gellir gweld y gofrestr gyhoeddus yma (mae'r safle yn yr uniaeth Saesneg yn unig) - Cofrestr Gyhoeddus o Hysbysiadau Gorfodi y NFCC.