Caiff y gofyniad am awdurdodiad i erlyn ei ddatgan yng Nghyfansoddiad Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Bydd yr Awdurdod Tân yn defnyddio’i ddoethineb wrth benderfynu p'un ai i erlyn rhywun, a bydd yr argymhelliad i erlyn yn cael ei wneud wedi ymgynghori â’r Swyddogion Diogelwch Rhag Tân priodol.

Caiff y gofyniad am awdurdodiad i erlyn ei ddatgan yng Nghyfansoddiad Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Nid yw’r penderfyniad i erlyn yn cael ei wneud ar chwarae bach, a bydd yn dwyn i ystyriaeth y prawf tystiolaethol a’r ffactorau lles y cyhoedd perthynol a draethir gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn y Côd ar gyfer Erlynyddion y Goron (yn agor yn ffenest/tab newydd). Ni fydd unrhyw erlyniad yn cael mynd yn ei flaen nes bod yr Awdurdod Tân o’r farn bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn a’i fod yn penderfynu y byddai erlyniad er lles y cyhoedd.

Yma fe welwch enghreifftiau o bobl a gafodd eu herlyn am fethu â chydymffurfio â’u dyletswyddau yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (yn agor yn ffenest/tab newydd).