Diogelwch Tân Pwlltân



Mae pyllau tân, chimeneas, a lleoedd tân awyr-agored yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn ein gerddi. Maen nhw'n creu cynhesrwydd ac awyrgylch pan fydd pobl yn dod ynghyd mewn gardd.





Cyn i chi gynnau eich tân 

  • Gwnewch yn siŵr bod eich pwll tân yn sefydlog, i leihau'r risg y bydd yn dymchwel.
  • Peidiwch â gosod eich pwll tân ar ddecin nac wrth ymyl coed neu strwythurau fel siediau neu ffensys.
  • Gwiriwch y tywydd lleol a chyfeiriad y gwynt cyn cynnau eich tân. Gwnewch yn siŵr bod unrhyw beth fflamadwy gerllaw, i’r cyfeiriad y mae’r gwynt yn chwythu iddo, yn cael ei symud.
  • Cyn i chi gynnau eich tân, gwnewch yn siŵr bod gennych fodd o’i ddiffodd wrth law – cadwch fwced o ddŵr, tywod neu bibell ddyfrhau gerllaw rhag ofn.

 

Byddwch yn gymydog da

  • Wrth losgi unrhyw beth yn eich gardd, ystyriwch yr effaith y gallai'r mwg ei chael ar eich cymdogion. 
  • Gall mwg o'ch tân orfodi pobl i gau ffenestri a'u hatal rhag oeri eu cartrefi. Mae pobl ag anawsterau anadlu ac anhwylderau anadlu yn aml yn dioddef mwy mewn amodau poeth a gall y mwg o dân wneud eu cyflwr yn waeth. 
  • Os yw'ch cymdogion wedi rhoi eu golch allan, rhowch wybod iddynt am eich bwriad i gynnau tân fel eu bod yn cael cyfle i'w gasglu cyn i chi ddechrau llosgi. 
  • Byddwch yn barod i ddiffodd eich tân. Os yw eich tân yn cael effaith ar gymydog, peidiwch â'i gymryd yn bersonol. Y peth ystyriol i'w wneud fyddai diffodd y tân a lleddfu eu hanesmwythder.

 

Goleuo eich pwll tân

  • Peidiwch byth â defnyddio cemegau fel petrol i ddechrau eich tân; yn hytrach, defnyddiwch briciau i greu tân bach ac yna ychwanegu darnau mwy o bren yn raddol.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio pren wedi ei sychu i leihau'r risg o wreichion a mwg.
  • Peidiwch byth â defnyddio pren wedi'i baentio, ei orchuddio neu ei drin â chemegion oherwydd gall y rhain ryddhau cemegau gwenwynig i'r awyr.
  • Peidiwch byth â llosgi pethau fel plastig, rwber neu wastraff cyffredinol - gall y rhain hefyd ryddhau cemegau gwenwynig i'r awyr.

 

Cadwch blant yn ddiogel

  • Ni ddylai plant chwarae'n agos at unrhyw dân.
  • Gwnewch yn siŵr bod plant yn cael eu goruchwylio'n iawn a rhybuddiwch eich gwesteion am y peryglon hefyd.

 

Mwynhau eich pwll tân

  • Peidiwch byth â gadael unrhyw dân heb ei oruchwylio, boed yn farbeciw, pwll tân neu’n dân mewn chimenea.
  • Nid yw tân ac alcohol yn gyfuniad da. Peidiwch ag yfed gormod o alcohol os mai chi sy’n gyfrifol am y tân.
  • Mae'n arfer da gosod 'parth diogel' o amgylch eich pwll tân a sicrhau nad yw plant a gwesteion yn mynd i mewn iddo.

Cofiwch

  • Gwnewch yn siŵr bod eich pwll tân wedi'i ddiffodd yn llwyr cyn i chi fynd i'r gwely.