Mae tanau mewn carafannau a phebyll yn ymledu'n gyflym ac, yn aml, dim ond un fynedfa sydd ar gael, sy'n golygu ei bod yn ofynnol i chi fod yn arbennig o wyliadwrus er mwyn atal tân rhag cynnau.
- Dylai synwyryddion mwg gael eu gosod mewn carafannau, a dylid rhoi'r diffoddydd tân powdr sych yn agos at y drws – larymau optegol sydd fwyaf effeithiol fel arfer.
- Os ydych yn smygu, defnyddiwch flychau llwch metel – a pheidiwch byth â smygu yn y gwely.
- Peidiwch â gadael plant y tu mewn ar eu pen eu hunain.
- Peidiwch â rhwystro awyrellau aer – os bydd unrhyw nwyon sy'n gollwng yn cronni, efallai y byddwch yn mynd yn anymwybodol ac yn methu dianc. Sicrhewch fod y garafán wedi'i hawyru'n dda bob amser. Sicrhewch fod yr awyrellau aer yn glir – os bydd unrhyw beth yn rhwystro'r awyrellau aer, gallai fod yn angheuol.
- Diffoddwch bob cyfarpar cyn i chi adael y garafán neu fynd i'r gwely.
- Peidiwch byth â defnyddio popty neu wresogydd tra bod eich carafán yn symud.
- Pan fyddwch yn coginio, peidiwch â gadael pedyll heb fod rhywun yn cadw llygad arnynt.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod y trefniadau o ran diffodd tanau ar y maes gwersylla.
- Peidiwch â sychu dillad ar y stof.
- Cadwch fatshys a thanwyr sigaréts allan o gyrraedd plant.
- Ni ddylid byth gadael plant mewn carafán ar eu pen eu hunain.
- Cliriwch unrhyw sbwriel wrth ymyl y garafán i leihau'r risg o dân yn ymledu.
- Rydym yn argymell bod gennych y cyfarpar diogelwch canlynol ar gyfer carafannau: blanced dân, larwm mwg, diffoddydd powdr sych.
- Dylid cadw silindrau nwy y tu allan i'r garafán. Dylid diffodd silindrau nwy, oni bai eu bod wedi'u cynllunio i aros ymlaen yn barhaus, a dim ond pan fydd y botel yn hollol wag y dylech ei newid.
- Os ydych yn amau bod nwy yn gollwng, diffoddwch bob cyfarpar a phrif falf y silindr, agorwch y drysau a'r ffenestri i gyd a pheidiwch â smygu na throi unrhyw switsys na dyfeisiau trydan ymlaen nes i chi gael gwybod bod popeth bellach yn glir.
- Peidiwch byth â defnyddio cyfarpar sy'n llosgi tanwydd y tu mewn i'r garafán (e.e. barbeciws tafladwy, stofiau gwersylla, gwresogyddion gwersylla, llusernau a griliau golosg).
Lawrlwythwch
Lawrlwythwch y daflen carafanio gyfredol (PDF, 252Kb)
Download our Fire Safety Guidance for Caravan Sites (PDF, 995Kb)
Byddwch yn ymwybodol o garbon monocsid yr haf hwn
Ewch i'n tudalen Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid i gael mwy o wybodaeth