E-feiciau ac e-sgwteri – diogelwch tân



Mae llawer o’n dyfeisiau bychain yn defnyddio batris lithiwm-ion sy’n gallu cael eu hailwefru, e.e. gliniaduron, ffonau symudol, teganau plant, e-sgwteri ac e-sigarennau. Dyma fatris ysgafn, hirhoedlog, sy’n cynnwys llawer o ynni, ond gallant fod yn fwy adweithiol na batris arferol.



Mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau modern sy’n gallu cael eu hailwefru yn defnyddio batris lithiwm-ion. Os caiff batri lithiwm-ion ei wefru, ei drin, ei storio neu ei waredu mewn ffordd amhriodol, mae perygl y gallai orboethi, mynd ar dân neu ffrwydro. Mae hyn yn cynyddu'r risg o gael tân yn y tŷ, mewn garej neu gael anaf personol.





Cyngor Diogelwch Cyffredinol ar gyfer Batris Lithiwm-Ion



Gall y negeseuon canlynol eich helpu i gyfathrebu'r risg hon i’r cyhoedd ac i leihau'r risg o danau:



  • Defnyddiwch y gwefrydd a ddaeth gyda'ch dyfais bob tro, neu defnyddiwch un iawn gan gyflenwr dibynadwy.

  • Datgysylltwch ddyfeisiau pan fyddan nhw wedi gwefru'n llawn. Peidiwch â’u gadael wedi’u cysylltu dros nos.

  • Rhowch eich batris i wefru mewn lle diogel a lle gallwch eu gweld. Peidiwch â’u gwefru yn ymyl deunyddiau fflamadwy neu ar lwybrau dianc.

  • Gwefrwch eich batris ar arwyneb caled a gwastad. Defnyddiwch arwynebau cadarn sydd ddim yn fflamadwy, e.e. arwyneb cegin. Peidiwch â’u gwefru ar ddodrefn meddal neu ar garped.

  • Gwefrwch eich dyfeisiau tra byddwch chi’n effro ac yn agos. Peidiwch â’u gwefru dros nos na phan fyddwch wedi gadael y tŷ.

  • Datgysylltwch y gwefrydd pan fydd y batri’n llawn. Mae gwefru parhaus yn gwneud tân yn fwy tebygol.

  • Peidiwch â defnyddio batris sydd wedi chwyddo, wedi’u difrodi, neu sy’n gorboethi.

  • Peidiwch â gwefru na storio batris mewn lleoedd poeth neu oer iawn.

  • Gwefrwch eich batris mewn lleoedd agored lle mae digonedd o symudiad aer.

  • Peidiwch â chadw batris yng ngolau’r haul nac wrth ffynonellau gwres.

  • Gall hyn beri iddyn nhw orboethi.

  • Cheap chargers and batteries may not meet UK safety standards and can be dangerous.

  • Yn enwedig yn y mannau lle rydych chi'n gwefru batris capasiti uchel, fel e-feiciau neu sgwteri.


Canllawiau Gwaredu'n Ddiogel



  • Peidiwch byth â thaflu batris lithiwm gyda’ch sbwriel cartref.
  • Chwiliwch am y symbol bin olwynion â chroes trwyddo – mae hyn yn golygu bod yn rhaid ailgylchu'r eitem.

  • Rhowch dâp trydanol dros derfynellau i atal cylchedau byr ac i leihau risg tân.

  • Storiwch nhw mewn lle sych ac oer nes cânt eu gwaredu.

  • Peidiwch â chymysgu batris lithiwm â mathau eraill o fatri (e.e. alcalïaidd neu NiMH).

Rhaid i archfarchnadoedd a manwerthwyr mawr (sy'n gwerthu dros 32kg o fatris y flwyddyn) ddarparu biniau ailgylchu batris.

Gallwch roi’r batris canlynol yn y biniau hyn:

  • AA, AAA, 9V, celloedd botwm
  • Batris y gallwch eu hailwefru
  • Pecynnau batri o ddyfeisiau (os gallwch eu tynnu) 

  • Os na ellir tynnu'r batri (e.e. mewn e-sigaréts neu gyfrifianellau), dylai’r eitem gyfan gael ei drin fel gwastraff trydanol.

  • Ewch â’r ddyfais i ganolfan ailgylchu gwastraff cartref neu ei ddychwelyd i fanwerthwr pan fyddwch yn prynu eitem newydd.


Cyngor ar Ddiogelwch yn y Gweithle



Gall y negeseuon canlynol eich helpu i gyfathrebu'r risg hon i’r cyhoedd ac i leihau'r risg o danau:



  • Cynhaliwch asesiadau rheolaidd ar yr ardaloedd lle mae batris lithiwm-ion yn cael eu defnyddio neu eu storio.

  • Storiwch fatris mewn ffordd sy'n gwrthsefyll tân, yn enwedig batris capasiti uchel fel y rhai mewn e-feiciau neu sgwteri.

  • Sefydlwch weithdrefnau clir ar gyfer gwefru’n ddiogel, gan gynnwys goruchwylio a dynodi mannau i wefru.

  • Sicrhewch fod staff wedi cael hyfforddiant diogelwch batri, gan gynnwys sut i adnabod ac ymateb i fatris diffygiol.

  • Sefydlwch gynllun ar gyfer delio â thanau batri neu adweithiau thermol afreolus.


Gwaredu Busnes a Swmp


  • Rhaid i fusnesau ddilyn rheoliadau ADR ar gyfer cludo nwyddau peryglus, gan gynnwys batris lithiwm-ion.

  • Defnyddiwch gynwysyddion sydd wedi cael cymeradwyaeth gan y Cenhedloedd Unedig ac ystyriwch bartneriaeth â chwmnïau gwaredu ardystiedig.

  • Gwahanwch eich batris yn ôl eu math cemegol (e.e LiFePO4, LiCoO2) er mwyn eu hailgylchu'n briodol.



Ble allwch chi waredu batris lithiwm yng Nghymru



Mae rhai cynghorau lleol yng Nghymru yn cynnig gwasanaeth casglu batris bychain wrth ymyl y palmant. Edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol i weld a yw'r gwasanaeth hwn ar gael yn eich ardal chi.

Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i fanwerthwyr mawr ac archfarchnadoedd sy'n gwerthu batris (ac yn gwerthu mwy na 32kg y flwyddyn) ddarparu biniau ailgylchu batris yn y siop.

Gallwch roi’r batris canlynol yn y biniau hyn:

  • AA, AAA, 9V, a batris celloedd botwm
  • Batris y gallwch eu hailwefru
  • Batris o ddyfeisiau electroneg bychain (e.e. ffonau, camerâu)

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn darparu cyfleusterau ailgylchu batris yn eu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Gallwch fynd â’r canlynol yno:

  • Batris lithiwm-ion o liniaduron, ffonau, offer pŵer

  • Pecynnau batri o e-feiciau neu sgwteri (gwiriwch gyda'r ganolfan yn gyntaf)

  • Batris sydd wedi'u difrodi neu wedi chwyddo (byddwch yn ofalus â’r rhain a rhowch dâp trydanol ar y terfynellau)

Os na allwch dynnu’r batri, ailgylchwch y ddyfais gyfan mewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref neu drwy bwynt casglu Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE).

Ar gyfer batris lithiwm mawr neu rai sydd wedi'u difrodi, neu os nad ydych yn siŵr, defnyddiwch wefan gwaredu gwastraff peryglus Llywodraeth y DU i ddod o hyd i wasanaeth addas yn eich ardal chi.