Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LosgiiAmddiffyn cefn gwlad Cymru y tymor llosgi hwn.
Wrth i'r haf hir, poeth ddod i ben a’n bod ni’n symud i'r hydref, gyda llystyfiant sych a gostyngiad mewn tymheredd, mae'r tymor llosgi yn dechrau yn swyddogol.
Mae 2025 wedi gweld cynnydd digynsail mewn tanau gwyllt ledled Cymru. Gan gyfuno tanau glaswelltir, coetir, cnydau a thanau gwyllt, mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ymateb i gyfanswm o 3289 o ddigwyddiadau ers mis Ionawr 2025, y nifer fwyaf o ddigwyddiadau ers 2018.
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru eisiau atgoffa ffermwyr a thirfeddianwyr y gall llosgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin ddigwydd o 1 Hydref hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd Ucheldir), fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt gael Cynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel.
Rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau dinistriol tanau gwyllt. Nid yn unig y mae eich tir a'ch bywoliaeth yn bwysig i chi ond maent hefyd yn hanfodol i'n hecosystem a'n heconomi. Rydym yn eich annog i fabwysiadu mesurau atal tanau gwyllt effeithiol wrth losgi’ch tir.
Dywedodd Andrew Wright, Gadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: