Telerau ac Amodau’r Raffl am Daleb Amazon.



1. Hyrwyddwr

Hyrwyddwr y raffl hon yw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

2. Pwy sy’n gymwys

  • Mae hawl i unigolion sy'n cwblhau Arolwg Siapio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru...  Gyda'i gilydd gystadlu.
  • Bydd un gwobr raffl yn cael ei thynnu bob chwarter.
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.
  • Dim ond un waith caiff pob person gystadlu.
  • Nid chaiff staff GTACGC gystadlu os ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu'r arolwg neu wobrau’r raffl.

3. Amlder Tynnu’r Raffl

  • Bydd y raffl yn cael ei thynnu unwaith y chwarter ar y dyddiadau canlynol – 14 Ionawr, 15 Ebrill, 15 Gorffennaf a 14 Hydref 2026.
  • Bob chwarter, bydd un enillydd yn cael ei ddewis a byddant yn cael cerdyn Amazon eGift gwerth £50.

4. Sut mae Cystadlu ac Anhysbysrwydd yr Arolwg

  • I gymryd rhan yn y raffl, rhaid i gyfranogwyr roi ateb cadarnhaol i’r cwestiwn ynghylch y raffl, a rhaid iddyn nhw ddarparu eu manylion cyswllt gan ddefnyddio’r ddolen benodol: https://forms.office.com/e/hd4ria03Yq.
  • Rhaid cyflwyno eu hateb cyn dyddiadau cau'r raffl chwarterol. Ni fyddwn yn derbyn cyflwyniadau hwyr.
  • Mae cyfraniadau i Arolwg Siapio Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Gyda'i Gilydd yn gwbl ddienw. Dewis yw cystadlu yn y raffl, ac mae’n digwydd ar wahân trwy ddefnyddio dolen bwrpasol sy’n arwain at ail ffurflen: https://forms.office.com/e/hd4ria03Yq. Nid yw'r ffurflen hon yn gysylltiedig ag ymatebion unigolion i'r arolwg, ac nid yw'n peryglu anhysbysrwydd yr arolwg. Mae’r manylion cyswllt a roddir ar gyfer y raffl yn cael eu cadw ar wahân, a dim ond at ddibenion hysbysu'r enillydd y cânt eu defnyddio.

5. Y Wobr

  • Bydd un enillydd cymwys yn cael cerdyn Amazon eGift gwerth £50.
  • Nid oes modd trosglwyddo’r wobr, ac ni fydd cynnig i’w newid am arian parod.

6. Dewis yr Enillydd a’u Hysbysu

  • Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o'r holl geisiadau cymwys ar ôl i'r raffl ddod i ben.
  • Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a roddwyd.
  • Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 72 awr i'w hysbysu, mae GTACGC yn cadw'r hawl i ddewis enillydd arall.
  • Gall yr enillydd naill ai gasglu’r wobr o Bencadlys y Gwasanaeth, Lon Pisgwydd, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1SP, neu gellir postio'r wobr.  

7. Y hawl i dynnu’n ôl

  • Mae GTACGC yn cadw'r hawl i ddiwygio neu i dynnu'r gystadleuaeth a'r Telerau ac Amodau hyn yn ôl os bydd amgylchiadau annisgwyl y tu allan i'w reolaeth resymol neu os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol. Cânt wneud hyn yn ôl eu disgresiwn llwyr. 

8. Cyhoeddusrwydd

  • Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae'r enillydd yn cytuno i’w henw gael ei gyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol GTACGC. Gellid gofyn i’r enillydd gymryd rhan mewn gweithgarwch cyhoeddusrwydd rhesymol yn gysylltiedig â chystadleuaeth. 

9.Diogelu Data

  • Bydd y manylion cyswllt a roddir ar gyfer y raffl yn cael eu defnyddio at ddibenion hysbysu'r enillydd yn unig.
  • Bydd yr holl ddata personol yn cael ei ddileu'n ddiogel ar ôl i'r wobr gael ei hawlio.
  • Bydd GTACGC yn trin yr holl ddata yn unol â'i Bolisi Diogelu Data a'r ddeddfwriaeth berthnasol.

10. Cyffredinol

  • Mae GTACGC yn cadw'r hawl i ddiwygio neu i dynnu'r raffl yn ôl ar unrhyw adeg.
  • Trwy gymryd rhan yn y raffl, mae cyfranogwyr yn cytuno i'r telerau ac amodau hyn.

Pob lwc a diolch am gyfrannu.