Cystadleuaeth Ymgyrch y Nadolig – Telerau ac Amodau



1. Hyrwyddwr

Hyrwyddwr y raffl hon yw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC). 

2. Pwy sy’n gymwys

  • Mae cofrestru ar agor i unigolion sy'n cwblhau Cystadleuaeth Lliwio #GwiwerYGwasanaeth.
  • Bydd un raffl yn cael ei thynnu ym mhob rhanbarth (Gogledd, De, Gorllewin).
  • Gall ymgeiswyr fod yn unrhyw oedran ond rhaid i rai dan 18 oed roi enw / manylion cyswllt rhiant neu warcheidwad
  • Ni chaiff gweithwyr GTACGC sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu'r raffl gystadlu.

3. Amlder Tynnu’r Raffl

  • Bydd y raffl ar gyfer pob un o'r 3 rhanbarth yn cael ei chynnal ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025.
  • Bydd tri enillydd yn cael eu dewis i dderbyn cerdyn e-rhodd Amazon gwerth £30.

4. Sut mae Cystadlu ac Anhysbysrwydd yr Arolwg

  • I gymryd rhan yn y raffl, rhaid i gyfranogwyr roi enw a chyfeiriad e-bost dilys.
  • Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 10yb, ddydd Llun, 22 Rhagfyr. Ni fyddwn yn derbyn cyflwyniadau hwyr.
  • Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth lliwio yn ddewisol. Mae’r manylion cyswllt a roddir ar gyfer y raffl yn cael eu cadw ar wahân, a dim ond at ddibenion hysbysu'r enillydd y cânt eu defnyddio.

5. Y Wobr

  • Bydd un enillydd cymwys yn Rhanbarth y Gogledd, y De a'r Gorllewin yn derbyn cerdyn e-rhodd Amazon gwerth £30.
  • Nid oes modd trosglwyddo’r wobr, ac ni fydd modd ei newid am arian parod.

6. Dewis yr Enillydd a’u Hysbysu

  • Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o'r holl geisiadau cymwys ar ôl i'r raffl ddod i ben.
  • Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a roddwyd.
  • Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 72 awr i'w hysbysu, mae GTACGC yn cadw'r hawl i ddewis enillydd arall.
  • Gall yr enillydd naill ai gasglu’r wobr o Bencadlys y Gwasanaeth, Lôn Pisgwydd, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1SP, neu gellir postio'r wobr.  

7. Y hawl i dynnu’n ôl

  • Mae GTACGC yn cadw'r hawl i ddiwygio neu i dynnu'r gystadleuaeth a'r Telerau ac Amodau hyn yn ôl os bydd amgylchiadau annisgwyl y tu allan i'w reolaeth resymol neu os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol. Cânt wneud hyn yn ôl eu disgresiwn llwyr. 

8. Cyhoeddusrwydd

  • Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, mae'r enillydd yn cytuno i’w henw gael ei gyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol GTACGC. Gellid gofyn i’r enillydd gymryd rhan mewn gweithgarwch cyhoeddusrwydd rhesymol yn gysylltiedig â chystadleuaeth. 

9.Diogelu Data

  • Bydd y manylion cyswllt a roddir ar gyfer y raffl yn cael eu defnyddio at ddibenion hysbysu'r enillydd yn unig.
  • Bydd yr holl ddata personol yn cael ei ddileu'n ddiogel ar ôl i'r wobr gael ei hawlio.
  • Bydd GTACGC yn trin yr holl ddata yn unol â'i Bolisi Diogelu Data a'r ddeddfwriaeth berthnasol.

10. Cyffredinol

  • Mae GTACGC yn cadw'r hawl i ddiwygio neu i dynnu'r raffl yn ôl ar unrhyw adeg.
  • Trwy gymryd rhan yn y raffl, mae cyfranogwyr yn cytuno i'r telerau ac amodau hyn.

Pob lwc a diolch am gyfrannu.