Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am ddiogelwch y cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a gwasanaeth ymateb brys ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru.
Gellir rhannu gwaith Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyda Phlant a Phobl Ifanc yn bedwar maes gwahanol, sef: Cadetiaid Tân, Ffenics, Addysg a Chyneuwyr Tanau.
Mae gweithio i'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fw...
Mae Bwrdd Tân Gwyllt Cymru yn ddull amlasiantaethol o ddeall a rheoli'r risg o danau gwyllt yn well ar yr amgylchedd a chymunedau Cymru.
Mae gweithio i'r gwasanaeth tân ac achub yn rôl uchel ei pharch yn y gymuned. Rydym yn dibynnu ar dîm o bobl sydd â chymysgedd o sgiliau a phrofiad i ddarparu gwasanaeth rheng flaen effeithiol a gwneud ein rhanbarth yn fwy diogel rhag tân.
Dweiswch eich iaith : Choose your language:
Mae ein hamcanion yn galluogi plant a phobl ifanc i:
Nodi peryglon tân yn y cartref ac o amgylch y cartref.
Deall pwysigrwydd profi larymau mwg.
Trafod llwybrau dianc rhag tân â'u rhieni, a'u cynllunio.
Cael eu grymuso i wrthsefyll pwysau cyfoedion mewn perthynas â throseddau tân, er enghraifft cynnau tanau bwriadol a gwneud galwadau tân ffug.
Archwilio rolau a chyfrifoldebau'r Gwasanaeth Tân yng Nghymru trwy ein prosiectau Bagloriaeth Cymru.
Rydym yn darparu amrywiaeth o negeseuon diogelwch i asiantaethau:
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â:Gwenda JenkinsYmgynghorydd AddysgPencadlys Diogelwch yn y GymunedGwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin CymruHeol Llwyn PisgwyddCaerfyrddin SA31 1SP
Ffôn: 0370 60 60 699e-bost: gwenda.jenkins@mawwfire.gov.uk