Y Diwrnod Asesu
Hyd nes y derbynnir / y tybir bod eich Cais, Asesiad Optometreg ac Oriau Argaeledd yn addas, fe'ch gwahoddir i gynnal yr Asesiad Ymarferol a Chorfforol, ynghyd â Phrawf Melin-Dread Caer yn naill ai ein Canolfan Hyfforddi Iarll y Coed, Gorsaf Dân Y Drenewydd neu Orsaf Dân Hwlffordd.
Bellach, mae'r asesiad ysgrifenedig a'r cyfweliad yn cael eu cynnal gan Swyddogion Rheoli Rhanbarth mewn y Rhanbarth cyn / ar ôl y sesiynau profi mewn Canolfannau Hyfforddi (nid ar yr un diwrnod).
Prawf Gallu (Asesiad Ysgrifenedig) – 45 munud
Mae’r Prawf Gallu yn cael ei gynnal yn unol â Phrawf Cenedlaethol y Diffoddwyr Tân a’r Prawf Dethol Cenedlaethol. Mae’r Prawf hwn wedi cael ei gynllunio i amlygu eich addasrwydd ar gyfer rôl Diffoddwr Tân.
Asesiadau Corfforol ac Ymarferol
Mae’r Prawf Corfforol yn cynnwys y profion canlynol:
- Symud Unigolyn Wedi’i Anafu
- Dringo Ysgol
- Codi Ysgol
- Lle Cyfyng
- Gosod Cyfarpar
- Cario Cyfarpar
Asesiad Ffitrwydd/Prawf Melin Draed Caer
Prawf 12 munud graddedig ar felin draed yw hwn, sydd wedi’i gynllunio i asesu a ydych yn gallu cyflawni’r safon ofynnol a argymhellir ar gyfer gallu aerobig.
Cyfweliad Strwythuredig
Tua 35 munud.
Gwiriad DBS
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, a disgwylir i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun gwiriad DBS a geirdaon boddhaol.