Ydych chi wedi bod yn meddwl am ddod yn Ddiffoddwr Tân ers tro?
Efallai nad ydych wedi llwyddo i fynd amdani eto!
Mae mynd i Ddiwrnod Profiad y Gwasanaeth Tân ac Achub yn ffordd wych o’ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus cyn mynd ati i wneud cais.
Er bod angen cofrestru neu fynegi diddordeb ymlaen llaw ar gyfer rhai, mae eraill yn fwy anffurfiol ac ar ffurf diwrnod agored.
Y naill ffordd neu'r llall, eu diben yw meithrin ymwybyddiaeth ac annog aelodau'r gymuned i weld a oes ganddynt yr hyn y mae ei angen i ymuno â'r Gwasanaeth Tân ac Achub.