Paratoi
Mae’n bwysig bod yn y cyflwr corfforol gorau posibl cyn dechrau’r cwrs recriwtio cychwynnol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r rôl yn gofyn am wytnwch corfforol a meddyliol. Mae'r hyfforddiant a'r dyletswyddau yn gofyn am ffocws, dygnwch ac egni. Er mwyn llwyddo, felly, mae’n hanfodol eich bod yn barod yn gorffol. Mae ymarfer corff rheolaidd, digon o gwsg, diet cytbwys a gofal iechyd cyffredinol yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y gallwch chi fynd i’r afael â heriau'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Iechyd da yw'r sylfaen ar gyfer gweithio'n effeithiol ac yn ddiogel yn y rôl heriol a hanfodol hon.
Cyn i chi ddechrau
Cyn dechrau ymarfer corff, rhaid i chi ymgynghori â meddyg neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn enwedig os nad ydych chi wedi bod yn actif ers peth amser neu os oes gennych chi unrhyw gyflyrau iechyd a allai beri risg. Mae hi hefyd yn bwysig dechrau’n araf o ran lefel y dwyster a faint o ymarfer corff rydych chi’n ei wneud er mwyn gallu cynyddu'r lefelau hyn yn raddol. Bydd hyn yn caniatáu i chi gryfhau'ch cyhyrau a'ch cymalau heb orlwytho'ch corff, gan leihau'r risg o anaf. Mae cynyddu’r dwyster a faint o ymarfer corff rydych chi’n ei wneud yn raddol dros amser yn allweddol er mwyn gwella ffitrwydd a chynnal eich iechyd mewn modd cynaliadwy.